Manylion y penderfyniad
Debate on the Health and Social Care Committee's Report on the Inquiry into the implementation of the National Service Framework for diabetes in Wales and its future direction
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Ymchwiliad gwreiddiol y Pwyllgor
Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i weithredu’r Fframwaith
Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y
dyfodol yn ystod 2012/13.
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd archwilio’r cynnydd a
wnaed o ran gweithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes
yng Nghymru o fewn y byrddau iechyd lleol a pha mor ddigonol ac effeithiol ydyw
o ran atal a thrin diabetes yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor hefyd y camau gweithredu posibl y
bydd eu hangen yn y dyfodol i lywio’r agenda hon.
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth
am y pwnc hwn.
Adroddiad y Pwyllgor
Cyhoeddodd
y Pwyllgor ei adroddiad (PDF, 837KB) ym mis Mehefin 2013. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru (PDF, 208KB) ym mis Hydref 2013. Cynhaliwyd y ddadl
yn y Cyfarfod Llawn ar 16
Hydref 2013.
Gwaith dilynol y Pwyllgor
Yn haf 2014, cytunodd y
Pwyllgor i ofyn am adroddiad diweddaru gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ar y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu argymhellion y
Pwyllgor. Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Medi
2014.
Mae diweddariad
y Gweinidog (PDF, 334KB) yn pwysleisio bod llawer o argymhellion y
Pwyllgor yn cael eu gweithredu drwy’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes. Yn
sgil yr ymateb hwn, cytunodd y Pwyllgor i ohirio penderfyniad ar p’un a ddylid
ymgymryd ag unrhyw waith dilynol yn y dyfodol tan ar ôl cyhoeddi’r adroddiad
blynyddol ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes. Deallir y caiff yr adroddiad
ei gyhoeddi ddiwedd 2014.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.03
NDM5328
David Rees (Aberafan)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
Yn nodi
adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i
gyfeiriad yn y dyfodol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 24 Mehefin 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 17/10/2013
Dyddiad y penderfyniad: 16/10/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad