Manylion y penderfyniad
Debate on the Equality and Human Rights Annual Report: "Working together to strengthen equality and human rights in Wales - Wales Review 2012-13"
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.21
NDM5327
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adolygiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ‘Cydweithio i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng
Nghymru’.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wella safon ac argaeledd gwasanaethau cymorth ar gyfer
dioddefwyr trais rhywiol.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod
yr angen i annog dioddefwyr troseddau casineb a cham-drin domestig i roi gwybod am ddigwyddiadau
o’r fath.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymchwilio i ffyrdd
o sicrhau bod aelodaeth byrddau’r sector cyhoeddus yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethir ganddynt yn fwy
cywir.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddatblygu polisïau
i fynd i’r afael â stereoteipio ar sail rhyw mewn
cyfleoedd gwaith o bob
math.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5327
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adolygiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ‘Cydweithio i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng
Nghymru’.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wella safon ac argaeledd gwasanaethau cymorth ar gyfer
dioddefwyr trais rhywiol.
Yn cydnabod
yr angen i annog dioddefwyr troseddau casineb a cham-drin domestig i roi gwybod am ddigwyddiadau
o’r fath.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymchwilio i ffyrdd
o sicrhau bod aelodaeth byrddau’r sector cyhoeddus yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethir ganddynt yn fwy
cywir.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddatblygu polisïau
i fynd i’r afael â stereoteipio ar sail rhyw mewn
cyfleoedd gwaith o bob
math.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 16/10/2013
Dyddiad y penderfyniad: 15/10/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad