Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 14.53
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5323
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1.
Yn cydnabod gwerth cyfartal addysg alwedigaethol ac academaidd;
2.
Yn credu bod economi ffyniannus yn cael budd
o fyfyrwyr â sgiliau cynhwysfawr; a
3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymgynghori
â rhanddeiliaid a gweithio gyda hwy i gynllunio
cwricwlwm galwedigaethol sy'n annog cydraddoldeb
ag addysg
academaidd yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
14 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 10/10/2013
Dyddiad y penderfyniad: 09/10/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad