Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.50
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5313
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi â phryder:
a)
bod gan Gymru y gyfran fwyaf o eiddo mewn mannau
gwan posibl, a'r argaeledd isaf
o ran gwasanaethau band eang
cyflym iawn yn y DU; a
b)
bod y gwaith diweddar i ad-drefnu a dadgomisiynu mastiau ffonau symudol wedi golygu
bod llawer o gwsmeriaid yn wynebu colli
eu signal symudol neu ddirywiad yn
eu signal symudol, er mawr rwystredigaeth
iddynt.
2.
Yn credu bod gwasanaethau band eang a symudol yn chwarae
rhan hanfodol a chynyddol ym mywydau
defnyddwyr a dinasyddion Cymru a bod diffyg mynediad i seilwaith digidol yn rhwystr
i ddatblygiad cymdeithasol,
economaidd a diwylliannol, gan nodi'n benodol:
a)
bod adroddiad diweddar gan Estyn, ‘Effaith
TGCh ar ddysgu
disgyblion mewn ysgolion cynradd’, yn nodi bod tua
hanner yr ysgolion a holwyd wedi dweud bod ansawdd gwael y cysylltiad rhyngrwyd yn rhwystro eu
gwaith TGCh;
b)
bod adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, ‘Broadband
services in Wales’, yn mynegi
pryder bod bodolaeth mannau gwan a mannau
araf band eang, yn enwedig mewn
ardaloedd gwledig, wedi rhwystro busnesau
lleol ar draul yr economi
leol;
c)
bod adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ‘Rural
Communities’, yn nodi bod cartrefi mewn ardaloedd
gwledig yn llai tebygol o fanteisio ar gynlluniau
a allai leihau costau tanwydd, megis tariffau rhatach neu gynlluniau
effeithlonrwydd ynni, oherwydd diffyg mynediad i fand eang; a
d)
bod Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Gwledig wedi dweud bod gwasanaeth gwael o ran y we yn ffactor sy'n
gwthio pobl ifanc allan o ardaloedd
gwledig.
3.
Yn gresynu at y problemau a brofir gan Gynllun Cymorth
Band Eang Arloesol Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a)
sicrhau bod cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn cael
ei hysbysebu'n eang ac nad yw'n
wynebu'r un problemau;
b)
archwilio’r system gynllunio
i sicrhau bod y rheolau cynllunio'n cefnogi datblygiad seilwaith digidol;
c)
archwilio pa gymorth y gellir ei gynnig
i fusnesau i wella eu gallu i gystadlu
ledled y byd drwy fynediad gwell
i wasanaethau digidol; a
d)
ymchwilio i broblemau diweddar gyda signalau
ffonau symudol a gweithio gyda darparwyr
rhwydwaith i sicrhau yr eir i'r
afael â'r problemau hyn a sicrhau cymaint o wasanaeth â phosibl ledled Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
37 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt
2c newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
bod
y cynnydd mewn siopa ar-lein wedi
cyfrannu at yr heriau y mae'r stryd fawr yn
eu hwynebu, ond ei fod
yn cydnabod potensial y rhyngrwyd fel ffynhonnell i adfywio’r stryd fawr;
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2:
y
cynnydd o ran digideiddio'r
ochr weinyddol o ffermio ac effaith hyn ar ffermwyr
mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth
band eang yn wan.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt
3a newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
sicrhau, yn
ystod y broses o gyflwyno'r
rhaglen Cyflymu Cymru, y bydd BT yn sicrhau bod pobl sy’n byw
mewn eiddo nad yw’n gymwys
i’w gysylltu yn cael gwybod
hynny mewn modd amserol;
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5313
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi â phryder:
a)
bod gan Gymru y gyfran fwyaf o eiddo mewn mannau
gwan posibl, a'r argaeledd isaf
o ran gwasanaethau band eang
cyflym iawn yn y DU; a
b)
bod y gwaith diweddar i ad-drefnu a dadgomisiynu mastiau ffonau symudol wedi golygu
bod llawer o gwsmeriaid yn wynebu colli
eu signal symudol neu ddirywiad yn
eu signal symudol, er mawr rwystredigaeth
iddynt.
2.
Yn credu bod gwasanaethau band eang a symudol yn chwarae
rhan hanfodol a chynyddol ym mywydau
defnyddwyr a dinasyddion Cymru a bod diffyg mynediad i seilwaith digidol yn rhwystr
i ddatblygiad cymdeithasol,
economaidd a diwylliannol, gan nodi'n benodol:
a)
bod adroddiad diweddar gan Estyn, ‘Effaith
TGCh ar ddysgu
disgyblion mewn ysgolion cynradd’, yn nodi bod tua
hanner yr ysgolion a holwyd wedi dweud bod ansawdd gwael y cysylltiad rhyngrwyd yn rhwystro eu
gwaith TGCh;
b)
bod adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, ‘Broadband
services in Wales’, yn mynegi
pryder bod bodolaeth mannau gwan a mannau
araf band eang, yn enwedig mewn
ardaloedd gwledig, wedi rhwystro busnesau
lleol ar draul yr economi
leol;
c)
bod y cynnydd mewn siopa ar-lein wedi
cyfrannu at yr heriau y mae'r stryd fawr yn
eu hwynebu, ond ei fod
yn cydnabod potensial y rhyngrwyd fel ffynhonnell i adfywio’r stryd fawr;
d)
bod adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ‘Rural Communities’,
yn nodi bod cartrefi mewn ardaloedd
gwledig yn llai tebygol o fanteisio ar gynlluniau
a allai leihau costau tanwydd, megis tariffau rhatach neu gynlluniau
effeithlonrwydd ynni, oherwydd diffyg mynediad i fand eang;
e)
bod Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Gwledig wedi dweud bod gwasanaeth gwael o ran y we yn ffactor sy'n
gwthio pobl ifanc allan o ardaloedd
gwledig; ac
f)
y cynnydd o ran digideiddio'r
ochr weinyddol o ffermio ac effaith hyn ar ffermwyr
mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth
band eang yn wan.
3.
Yn gresynu at y problemau a brofir gan Gynllun Cymorth
Band Eang Arloesol Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a)
sicrhau bod cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn cael
ei hysbysebu'n eang ac nad yw'n
wynebu'r un problemau;
b)
archwilio’r system gynllunio
i sicrhau bod y rheolau cynllunio'n cefnogi datblygiad seilwaith digidol;
c)
archwilio pa gymorth y gellir ei gynnig
i fusnesau i wella eu gallu i gystadlu
ledled y byd drwy fynediad gwell
i wasanaethau digidol; a
d)
ymchwilio i broblemau diweddar gyda signalau
ffonau symudol a gweithio gyda darparwyr
rhwydwaith i sicrhau yr eir i'r
afael â'r problemau hyn a sicrhau cymaint o wasanaeth â phosibl ledled Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 03/10/2013
Dyddiad y penderfyniad: 02/10/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad