Manylion y penderfyniad
Debate: First Supplementary Budget 2013-14
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 19.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5278 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn
cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd
Mawrth, 25 Mehefin 2013.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth
Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth
ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran
125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar
gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â
hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer
cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn
y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu
i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu
talu o’r Gronfa yn y cynnig; a
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran
125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol
Cymru o dan adran 125(1)(c).
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
12 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 17/07/2013
Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad