Manylion y penderfyniad
Debate on the Constitutional and Legislative Affairs Committee's Report on the Inquiry into the Council Tax Reduction Schemes Regulations
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Ymchwiliad ar droed
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae’r Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i’r ffordd
yr aethpwyd i’r afael â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Arweiniodd hyn yn y pen draw at ailymgynnull y Cynulliad yn ystod y toriad.
Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel
a ganlyn:
- Pam yr
oedd Llywodraeth Cymru o’r farn nad oedd yn gallu cyflwyno Rheoliadau
Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cyn iddi gael y trosglwyddiad
ariannol gan y Trysorlys, y cafodd ei gyhoeddi yn y pen draw yn Natganiad
Hydref y Canghellor ar 5 Rhagfyr 2012.
- Faint o
gyfathrebu a fu rhwng Llywodraeth Cymru, y Trysorlys a Swyddfa Cymru er
mwyn datrys y mater hwn, a natur y cyfathrebu hwn.
- Pa wersi
sydd i’w dysgu o’r mater hwn.
Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth
gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror, a
bydd yn cyhoeddi ei adroddiad yn fuan.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.48
NDM5292
David Melding (Canol De Cymru)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
Yn nodi
adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 11/07/2013
Dyddiad y penderfyniad: 10/07/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/07/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad