Manylion y penderfyniad
Debate: The NHS in Wales - Learning from the Francis Inquiry
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 17.56
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5288
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r camau y bydd
Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn ymateb i Adroddiad Francis.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1
- William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod data ar
farwolaethau wedi cyfrannu at y penderfyniad i gomisiynu Adroddiad Francis, ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gamau
a gymerir i ddatrys pryderon a gododd yn sgîl data marwolaethau GIG Cymru a
gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2013.
Derbyniwyd
gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi gyda phryder
bod y mynegai marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn uwch na’r cyfartaledd
mewn 11 o'r 17 o ysbytai cyffredinol dosbarth yng Nghymru, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynorthwyo Byrddau Iechyd Lleol i fynd i'r afael â’r
ôl-groniad o ran codio clinigol ac i sefydlu dull o ymchwilio pan fydd ysbyty
neu Fwrdd Iechyd Lleol yn croesi trothwy penodol ar gyfer y mynegai
marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn gyson dros gyfnod.
Derbyniwyd
gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi gyda phryder
bod Adroddiad Francis yn nodi lefelau staffio isel hirdymor fel un rheswm a
gyfrannodd at driniaeth wael, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried
potensial deddfwriaeth i osod lefel staffio sylfaenol ar gyfer nyrsys yng
Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
12 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r
ymrwymiad i gyhoeddi polisi newydd ar chwythu'r chwiban cyn diwedd mis Gorffennaf
2013, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ei llinell gymorth ddi-dâl ei
hun ar gyfer chwythu'r chwiban er mwyn ategu'r polisi hwn a galluogi holl staff
a chleifion y GIG i roi gwybod am eu pryderon yn ddienw.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5288
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r camau y bydd
Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn ymateb i Adroddiad Francis.
Yn nodi bod data ar
farwolaethau wedi cyfrannu at y penderfyniad i gomisiynu Adroddiad Francis, ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gamau
a gymerir i ddatrys pryderon a gododd yn sgîl data marwolaethau GIG Cymru a
gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2013.
Yn nodi gyda phryder
bod y mynegai marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn uwch na’r cyfartaledd
mewn 11 o'r 17 o ysbytai cyffredinol dosbarth yng Nghymru, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynorthwyo Byrddau Iechyd Lleol i fynd i'r afael â’r
ôl-groniad o ran codio clinigol ac i sefydlu dull o ymchwilio pan fydd ysbyty
neu Fwrdd Iechyd Lleol yn croesi trothwy penodol ar gyfer y mynegai
marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn gyson dros gyfnod.
Yn nodi gyda phryder
bod Adroddiad Francis yn nodi lefelau staffio isel hirdymor fel un rheswm a
gyfrannodd at driniaeth wael, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried
potensial deddfwriaeth i osod lefel staffio sylfaenol ar gyfer nyrsys yng
Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 10/07/2013
Dyddiad y penderfyniad: 09/07/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/07/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad