Manylion y penderfyniad

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.00

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5282 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y potensial enfawr i dwristiaeth yng Nghymru wledig ac yn annog Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phryderon y diwydiant ynglyn â sut y bydd y strategaeth newydd ar gyfer twristiaeth yn gweithio mewn ardaloedd gwledig.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog cynghorau lleol i weithredu canllawiau cynllunio Tan 6 i gynorthwyo'r economi wledig gynaliadwy ac annog arallgyfeirio mewn ardaloedd gwledig drwy alluogi troi adeiladau fferm gwag yn eiddo busnes neu lety yn awtomatig.

3. Yn cydnabod yr amodau amgylcheddol anodd sy'n wynebu ffermwyr sy'n gweithio mewn Ardaloedd Llai Ffafriol (LFA) ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu pecyn cymorth LFA i fynd i'r afael â'r heriau unigryw hyn.

4. Yn nodi pwysigrwydd gwasanaethau bysiau cynaliadwy fel llinell fywyd i gymunedau gwledig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu digon o gyllid i wasanaethau bysiau gwledig.

5. Yn nodi ymhellach bwysigrwydd Sioe Frenhinol Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol o ran cynorthwyo'r economi wledig a hyrwyddo diwylliant Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

35

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod pwysigrwydd banc ar y stryd fawr i’r economi leol, ac yn gresynu at y ffaith, yn ôl dadansoddiad diweddar ‘The Last Bank in Town’ gan yr Ymgyrch Dros Wasanaethau Bancio Cymunedol, bod tri deg wyth o gymunedau yng nghefn gwlad Cymru ble mae dim ond un banc bellach.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘ac yn annog Llywodraeth Cymru i’ a rhoi yn ei le ‘weithio gyda’r diwydiant er mwyn datblygu’r potensial hwnnw drwy fwrw ymlaen â’r strategaeth newydd ar gyfer twristiaeth

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

22

48

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 2

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

22

48

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gan fod gwelliant 3 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 5 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod yr amodau economaidd a’r amodau amgylcheddol anodd y mae ffermwyr sy’n gweithio yn yr Ardal Lai Ffafriol (LFA) bresennol

yn eu hwynebu, yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu’r dynodiad newydd ar gyfer Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol cyn y dyddiad terfynol yn 2018 ac yn nodi hefyd ymrwymiad y Llywodraeth i ddefnyddio’r dynodiad newydd hwn er mwyn mynd i’r afael â’r heriau unigryw hyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

17

48

Derbyniwyd gwelliant 5.                   

Gan fod gwelliant 5 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 6 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod rôl hanfodol cyllid yr Undeb Ewropeaidd o ran cefnogi economi cefn gwlad Cymru, ac felly’n credu’n gryf mai’r ffordd orau o ofalu am fuddiannau Cymru yw drwy barhau i fod yn rhan ymroddedig o’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

13

5

48

Derbyniwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi pwysigrwydd gwasanaethau rheilffordd sydd ar gael yn rhwydd i ddarparu system drafnidiaeth integredig mewn ardaloedd gwledig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ailagor gorsafoedd rheilffyrdd addas ledled cefn gwlad Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 8.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5282 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd banc ar y stryd fawr i’r economi leol, ac yn gresynu at y ffaith, yn ôl dadansoddiad diweddar ‘The Last Bank in Town’ gan yr Ymgyrch Dros Wasanaethau Bancio Cymunedol, bod tri deg wyth o gymunedau yng nghefn gwlad Cymru ble mae dim ond un banc bellach.

2. Yn cydnabod y potensial enfawr i dwristiaeth yng Nghymru wledig ac yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r diwydiant er mwyn datblygu’r potensial hwnnw drwy fwrw ymlaen â’r strategaeth newydd ar gyfer twristiaeth.

3. Yn cydnabod yr amodau economaidd a’r amodau amgylcheddol anodd y mae ffermwyr sy’n gweithio yn yr Ardal Lai Ffafriol (LFA) bresennol yn eu hwynebu, yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu’r dynodiad newydd ar gyfer Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol cyn y dyddiad terfynol yn 2018 ac yn nodi hefyd ymrwymiad y Llywodraeth i ddefnyddio’r dynodiad newydd hwn er mwyn mynd i’r afael â’r heriau unigryw hyn.

4. Yn cydnabod rôl hanfodol cyllid yr Undeb Ewropeaidd o ran cefnogi economi cefn gwlad Cymru, ac felly’n credu’n gryf mai’r ffordd orau o ofalu am fuddiannau Cymru yw drwy barhau i fod yn rhan ymroddedig o’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

5. Yn nodi pwysigrwydd gwasanaethau bysiau cynaliadwy fel llinell fywyd i gymunedau gwledig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu digon o gyllid i wasanaethau bysiau gwledig.

6. Yn nodi pwysigrwydd gwasanaethau rheilffordd sydd ar gael yn rhwydd i ddarparu system drafnidiaeth integredig mewn ardaloedd gwledig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ailagor gorsafoedd rheilffyrdd addas ledled cefn gwlad Cymru.

7. Yn nodi ymhellach bwysigrwydd Sioe Frenhinol Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol o ran cynorthwyo'r economi wledig a hyrwyddo diwylliant Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

13

0

48

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

Dyddiad cyhoeddi: 04/07/2013

Dyddiad y penderfyniad: 03/07/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/07/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad