Manylion y penderfyniad
Debate on the Enterprise and Business Committee’s Report on Horizon 2020: Stage 2
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad
byr i'r cynigion Horizon 2020, a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ym mis
Tachwedd 2011.
Roedd y Pwyllgor
wedi ystyried y cysylltiadau posibl rhwng Horizon 2020 a’r cynigion a wnaed ar
gyfer Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd, yn benodol o ran creu
synergeddau gyda’r nod o wella perfformiad cyffredinol prifysgolion a busnesau
Cymru mewn perthynas â rhaglenni ymchwil yr UE.
Cylch gorchwyl
- asesu effeithiau posibl cynigion deddfwriaethol
drafft y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Horizon 2020 yn y dyfodol ar Gymru,
boed yn rhai cadarnhaol neu’n rhai negyddol;
- gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch yr
hyn y dylai Llywodraeth Cymru ei flaenoriaethu wrth geisio dylanwadu ar
safbwynt Llywodraeth y DU yng Nghyngor y Gweinidogion, a bwydo’r
argymhellion hyn i mewn i’r trafodaethau sy’n cael eu cynnal ym Mrwsel
(gan gynnwys y trafodaethau yn Senedd Ewrop);
- asesu’r cyfleoedd sydd ar gael i greu synergeddau
rhwng Horizon 2020 a Chronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru yn y
dyfodol, gyda’r nod o wella cyfranogiad Cymru yn Horizon 2020.
- ystyried sut y mae strategaeth gwyddoniaeth Cymru, a
pholisïau eraill Llywodraeth Cymru sy’n berthnasol i’r mater dan sylw, yn
ceisio cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i sefydliadau yng Nghymru i elwa
ar gyllid ymchwil ac arloesi’r UE yn y dyfodol.
Linc i’r
cynigion:
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.26
NDM5284
Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi
adroddiad Cyfnod 2 y Pwyllgor Menter a Busnes ar yr
ymchwiliad i Horizon 2020, a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Mai 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 04/07/2013
Dyddiad y penderfyniad: 03/07/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/07/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad