Manylion y penderfyniad
Debate: The Housing White Paper - Update on Implementation
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.14
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5271 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu Llywodraeth
Cymru a sefydliadau eraill ar hyn o bryd i helpu pobl i fyw mewn tai gweddus a
fforddiadwy;
2. Yn nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn gyntaf o
weithredu’r camau a amlinellir yn y Papur Gwyn ynghylch Tai a’r ffaith bod
Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau o ran y cyflenwad
tai fforddiadwy a sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto;
3. Yn cydnabod rhaglen Llywodraeth Cymru i gyflenwi mwy o
dai a chymryd camau eraill a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym
mhwynt 1 dileu popeth ar ôl ‘sylweddol' a rhoi yn ei le ‘sy’n wynebu cyflenwyr
tai a sefydliadau eraill yng Nghymru ers datganoli i helpu pobl i fyw mewn tai
gweddus a fforddiadwy;’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
38 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn mynegi pryder am fethiant Llywodraeth Cymru i
gyflwyno’r cynllun NewBuy Cymru, sy'n cosbi’r rheini sy’n prynu ty am y tro
cyntaf yng Nghymru ac yn rhoi pobl sy’n prynu tai ac yn adeiladu tai o dan
anfantais yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
7 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi’r amcangyfrif gan Brif Weinidog Cymru bod angen 20,000
i 25,000 yn ychwanegol o gartrefi un a dwy ystafell wely i liniaru ar
effeithiau’r newidiadau i’r budd-dal tai.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
12 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu wrth y diffyg cynnydd gydag agweddau
anneddfwriaethol y Papur Gwyn ynghylch Tai a’r nifer bychan o dai newydd sydd
wedi cael eu hadeiladu yng Nghymru;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
27 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun
integredig i fynd i’r afael â mater cartrefi gwag yng Nghymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Cartrefi Gwag genedlaethol ar gyfer
Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
27 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud drwy’r cynllun
achredu cenedlaethol ‘Cynllun Achredu Landlordiaid Cymru’ i gydnabod landlordiaid
da a gwella’r cyflenwad o lety o ansawdd da ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
flaenoriaethu’r gwaith o drwyddedu asiantaethau gosod tai yng ngoleuni’r
cynnydd o 9% mewn cwynion am asiantaethau gosod tai oddi wrth landlordiaid a
thenantiaid yn 2012.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl ‘cydnabod’ a rhoi yn ei le
'angen Llywodraeth Cymru i gyflwyno Rhaglen Marchnad Gyfan i gyflenwi mwy o
gartrefi a chymryd camau eraill a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
7 |
27 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Arolwg Tai Cymru i
gasglu gwybodaeth a thystiolaeth am broffil cartrefi a'r stoc tai yng Nghymru,
i helpu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a monitro polisïau tai Llywodraeth
Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
27 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prynwyr tro cyntaf yn gallu manteisio ar
gynlluniau priodol sydd wedi’u sefydlu i’w helpu i allu fforddio cartrefi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 9.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5271 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu Llywodraeth
Cymru a sefydliadau eraill ar hyn o bryd i helpu pobl i fyw mewn tai gweddus a
fforddiadwy;
2. Yn nodi’r amcangyfrif gan Brif Weinidog Cymru bod
angen 20,000 i 25,000 yn ychwanegol o gartrefi un a dwy ystafell wely i liniaru
ar effeithiau’r newidiadau i’r budd-dal tai;
3. Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud drwy’r cynllun
achredu cenedlaethol ‘Cynllun Achredu Landlordiaid Cymru’ i gydnabod
landlordiaid da a gwella’r cyflenwad o lety o ansawdd da ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i flaenoriaethu’r gwaith o drwyddedu asiantaethau gosod tai yng
ngoleuni’r cynnydd o 9% mewn cwynion am asiantaethau gosod tai oddi wrth
landlordiaid a thenantiaid yn 2012;
4. Yn nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn gyntaf o
weithredu’r camau a amlinellir yn y Papur Gwyn ynghylch Tai a’r ffaith bod
Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau o ran y cyflenwad
tai fforddiadwy a sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto;
5. Yn cydnabod rhaglen Llywodraeth Cymru i gyflenwi mwy o
dai a chymryd camau eraill a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl; a
6.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prynwyr tro cyntaf yn gallu manteisio
ar gynlluniau priodol sydd wedi’u sefydlu i’w helpu i allu fforddio cartrefi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
12 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 26/06/2013
Dyddiad y penderfyniad: 25/06/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad