Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 14.58
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Tynnwyd
gwelliant 2 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27 ar ddechrau’r Cyfnod
Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5264
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser
wedi bod yn weithredol am flwyddyn.
2.
Yn gresynu nad yw'r
amseroedd aros targed o ran atgyfeirio i driniaeth ar gyfer
cleifion canser sy'n cael diagnosis drwy’r llwybr achosion
brys yr amheuir
bod canser arnynt wedi eu cyrraedd
ers 2008.
3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol
bod Byrddau Iechyd Lleol yn cyhoeddi
eu cynlluniau cyflawni ar gyfer
canser a'u hadroddiadau blynyddol ar eu gwefannau
i sicrhau bod y cyhoedd yn gallu craffu
ar eu cynlluniau.
4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd Lleol i sicrhau bod gwasanaethau canser yn amserol,
yn canolbwyntio ar yr unigolyn
a bod anghenion clinigol ac
anghenion ehangach pobl, gan gynnwys
cael gafael ar gyngor a chymorth
ariannol, yn cael eu diwallu.
5.
Yn annog Llywodraeth Cymru i ddarparu diweddariadau blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gynnydd o ran gweithredu'r Cynllun Cyflawni ar gyfer
Canser.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
5 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 13/06/2013
Dyddiad y penderfyniad: 12/06/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad