Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.00
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5257
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn croesawu'r cyfle a roddir gan Ddiwrnod y Lluoedd Arfog i ddiolch i bawb sydd wedi gwasanaethu
yn ein lluoedd
a'r cymorth a roddwyd iddynt gan bobl Cymru.
2.
Yn cydnabod cyfraniad gweithwyr nad ydynt
yn rhai milwrol
i ymdrechion rhyfel olynol.
3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynorthwyo
gwasanaethau sydd wedi'u cyfeirio at gyn-filwyr ac ystyried cyflwyno Cynllun Cerdyn y Lluoedd Arfog, i gyn-filwyr a'r rhai sy'n
gwasanaethu yn y lluoedd arfog, i gyd-fynd â digwyddiadau sy'n coffáu canmlwyddiant
y Rhyfel Byd Cyntaf.
4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiwn y Cynulliad i ddatblygu a chyhoeddi rhaglen genedlaethol o ddigwyddiadau coffaol.
5.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ystyried
gweithio gyda’r lluoedd arfog a phartneriaid eraill i sefydlu Amgueddfa Filwrol Genedlaethol i Gymru i goffáu'r dreftadaeth gyfoethog o aberth, dewrder a gwasanaeth personél milwrol a sifiliaid o Gymru, a phawb sydd wedi gwasanaethu
eu gwlad ar adegau o wrthdaro
arfog.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
15 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 06/06/2013
Dyddiad y penderfyniad: 05/06/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad