Manylion y penderfyniad
Debate: Promoting green growth through resource efficiency
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.52
NDM5243 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
cydnabod gwerth hybu twf gwrdd fel un o’r prif sbardunau i’n gweledigaeth ar
gyfer dyfodol Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn cydnabod y potensial enfawr ar gyfer twf gwyrdd yng
Nghymru.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatblygu’r economi
werdd.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn nodi amcangyfrif y Gymdeithas Ynni Adnewyddadwy, sef y
gallai tua 400,000 o swyddi ledled y DU gael eu cefnogi gan y diwydiant ynni
adnewyddadwy erbyn 2020, sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd busnes gwyrdd ar gyfer
twf economaidd.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd mentrau gwyrdd wrth gefnogi’r
gwaith o adfywio cymunedau a manteision eang cynlluniau cymunedol gwyrdd.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth drosfwaol
glir ar gyfer twf gwyrdd sy’n cael ei chefnogi gan dargedau sy’n seiliedig ar
dystiolaeth, ynghyd â chanllawiau clir i ddatrys gwrthdaro rhwng blaenoriaethau
economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.
Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill
y gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi rhaglen gyda
chanlyniadau y gellir eu mesur i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng
Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
27 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Coleg Adeiladu Sgiliau
Gwyrdd i wneud Cymru yn ganolfan ragoriaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
41 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ‘trywydd’ a
chynllun gweithredu, gyda thargedau cynhyrchu, ar gyfer pob math o ynni
adnewyddadwy.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu
Banc Buddsoddi Gwyrdd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu’r cymorth y gall
ei gynnig i fusnesau Cymru er mwyn iddynt fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r
buddsoddiad hwn yn ei greu ar gyfer y gadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy yng
Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd sylfaen sgiliau gwyrdd i
ddatblygu cadwyn gyflenwi gadarn ac effeithiol yng Nghymru, er mwyn cefnogi twf
gwyrdd yn economi ehangach Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r
cyfleoedd academaidd a galwedigaethol sydd ar gael yng Nghymru i ddatblygu’r
sgiliau i gefnogi swyddi gwyrdd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu dangosyddion
perfformiad penodol i fonitro cynnydd twf gwyrdd yng Nghymru, er enghraifft:
1. Diweddaru ffigurau Gwerth Ychwanegol Crynswth bob chwarter
2. Ystadegau busnes sy’n canolbwyntio ar gategorïau craidd yn Rhaglen
Adnewyddu'r Economi
3. Ystadegau cyflogaeth yn y gweithle ar gyfer yr economi werdd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5243 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi amcangyfrif y Gymdeithas Ynni Adnewyddadwy, sef y
gallai tua 400,000 o swyddi ledled y DU gael eu cefnogi gan y diwydiant ynni
adnewyddadwy erbyn 2020, sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd busnes gwyrdd ar gyfer
twf economaidd.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatblygu’r economi
werdd.
Yn cydnabod y potensial enfawr ar gyfer twf gwyrdd yng
Nghymru.
Yn
cydnabod gwerth hybu twf gwrdd fel un o’r prif sbardunau i’n gweledigaeth ar
gyfer dyfodol Cymru.
Yn cydnabod pwysigrwydd mentrau gwyrdd wrth gefnogi’r
gwaith o adfywio cymunedau a manteision eang cynlluniau cymunedol gwyrdd.
Yn annog Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth drosfwaol glir
ar gyfer twf gwyrdd sy’n cael ei chefnogi gan dargedau sy’n seiliedig ar
dystiolaeth, ynghyd â chanllawiau clir i ddatrys gwrthdaro rhwng blaenoriaethau
economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi rhaglen gyda chanlyniadau
y gellir eu mesur i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru.
Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu
Banc Buddsoddi Gwyrdd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu’r cymorth y gall
ei gynnig i fusnesau Cymru er mwyn iddynt fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r
buddsoddiad hwn yn ei greu ar gyfer y gadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy yng
Nghymru.
Yn cydnabod pwysigrwydd sylfaen sgiliau gwyrdd i
ddatblygu cadwyn gyflenwi gadarn ac effeithiol yng Nghymru, er mwyn cefnogi twf
gwyrdd yn economi ehangach Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r
cyfleoedd academaidd a galwedigaethol sydd ar gael yng Nghymru i ddatblygu’r
sgiliau i gefnogi swyddi gwyrdd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 22/05/2013
Dyddiad y penderfyniad: 21/05/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/05/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad