Manylion y penderfyniad
Debate: Strengthening Local Government Democracy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.38
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5237 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
cydnabod gwerth hyrwyddo democratiaeth leol sy’n agored, yn dryloyw ac yn
atebol a phwysigrwydd annog mwy o amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu ‘Yn cydnabod
gwerth hyrwyddo democratiaeth leol sy’n agored, yn dryloyw ac yn atebol a
phwysigrwydd annog mwy o amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol’ a rhoi ‘Yn
gwerthfawrogi angenrheidrwydd dadlau dros ddemocratiaeth leol sy’n effeithlon,
yn agored, yn dryloyw ac yn atebol a phwysigrwydd annog mwy o amrywiaeth mewn
Llywodraeth Leol’ yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
14 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ar ôl ‘amrywiaeth’
cynnwys ‘ac ymgysylltu â rhanddeiliad’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
10 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth Cymru yn y pen draw i hwyluso ffrydio byw yn ystod pob un o
gyfarfodydd craffu a chabinet cynghorau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno agenda gynhwysfawr a fydd yn mynd i'r afael â materion yn
ymwneud â bod yn agored, tryloywder ac atebolrwydd mewn democratiaeth leol a
llywodraeth leol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant
5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gadarnhau ei bod yn cefnogi datganoli cyfrifoldeb dros etholiadau
llywodraeth leol i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
12 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi cyflwyno
system etholiadol deg a chyfrannol i sicrhau bod canlyniadau yn cyfleu'r ffordd
y mae pobl yn pleidleisio ac yn cynrychioli eu cymunedau lleol yn well, ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhelliad Comisiwn Sunderland yn 2002
drwy hyrwyddo deddfwriaeth i gyflwyno system un bleidlais drosglwyddadwy ar
gyfer cynghorau lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
40 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu nad yw oddeutu 77,000 o bobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru yn cael
pleidleisio ar hyn o bryd ac yn credu y byddai atebolrwydd democrataidd yn cael
ei gryfhau drwy ganiatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio mewn etholiadau
cynghorau lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
7 |
5 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5237 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
gwerthfawrogi angenrheidrwydd dadlau dros ddemocratiaeth leol sy’n effeithlon,
yn agored, yn dryloyw ac yn atebol a phwysigrwydd annog mwy o amrywiaeth ac
ymgysylltu â rhanddeiliad mewn Llywodraeth Leol.
Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth Cymru yn y pen draw i hwyluso ffrydio byw yn ystod pob un o
gyfarfodydd craffu a chabinet cynghorau.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno agenda gynhwysfawr a fydd yn mynd i'r afael â materion yn
ymwneud â bod yn agored, tryloywder ac atebolrwydd mewn democratiaeth leol a
llywodraeth leol.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gadarnhau ei bod yn cefnogi datganoli cyfrifoldeb dros etholiadau
llywodraeth leol i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Yn
gresynu nad yw oddeutu 77,000 o bobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru yn cael
pleidleisio ar hyn o bryd ac yn credu y byddai atebolrwydd democrataidd yn cael
ei gryfhau drwy ganiatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio mewn etholiadau
cynghorau lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
12 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 15/05/2013
Dyddiad y penderfyniad: 14/05/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad