Manylion y penderfyniad

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.57

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5240 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi methiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau allweddol ar draws pob portffolio, yn enwedig amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros damweiniau ac achosion brys;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi enghreifftiau sy'n dangos sut y mae'r Uned Gyflawni wedi gwella cyflawni mewn portffolios penodol, gan sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei addo yn cael ei gyflawni; a

3. Yn annog y Prif Weinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rheolaidd am gynnydd ym mhob maes polisi y gellir ei briodoli'n uniongyrchol i'r Uned Gyflawni.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

37

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dangosyddion ystadegol a thargedau penodedig ochr yn ochr â holl strategaethau’r llywodraeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn galw ar Brif Weinidog Cymru i ddarparu manylion am strwythur a chost yr Uned Gyflawni a sut mae'n gweithredu i gyflawni'r rôl a gafodd ei diffinio gan y Prif Weinidog yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 13 Gorffennaf 2011.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 3 dileu’r cyfan ar ôl "Weinidog i” a rhoi yn ei le “gynnal dadl flynyddol ar gynnydd yr Uned Gyflawni yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

38

50

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

Dyddiad cyhoeddi: 16/05/2013

Dyddiad y penderfyniad: 15/05/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/05/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad