Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 14.56
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5216
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod y rhan fwyaf o bobl
sy'n defnyddio gwasanaethau’r GIG yn gwneud hynny'n gyfrifol.
2.
Yn gresynu at effaith andwyol ymddygiad anghyfrifol ymhlith cleifion gan leiafrif o bobl sy'n defnyddio
GIG Cymru.
3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu i annog cleifion i beidio ag ymddwyn
yn anghyfrifol a hyrwyddo mwy o gyfrifoldeb ymhlith y rhai sy'n defnyddio’r
GIG.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
12 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 02/05/2013
Dyddiad y penderfyniad: 01/05/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/05/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad