Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.58
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5212
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1.
Yn cydnabod potensial Ynys Môn fel canolfan i ynni a thwf economaidd;
2.
Yn croesawu'r cyhoeddiad y bydd Hitachi'n datblygu Horizon
Nuclear Power ar safle Wylfa ar Ynys Môn;
3.
Yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried datblygu cynllun clir i gefnogi datblygiad Ynys Môn fel canolfan ar gyfer
cynhyrchu ynni; a
4.
Yn credu bod yn rhaid i ddatblygiad
ynni niwclear ar Ynys Môn gael
ei ategu gan gymorth pellach
i gymysgedd cadarn o ynni ledled Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
6 |
5 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 25/04/2013
Dyddiad y penderfyniad: 24/04/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/04/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad