Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.08
NDM5211
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod effaith y tywydd garw diweddar ar
gymunedau gwledig a busnesau yng Nghymru;
2.
Yn nodi'r effaith y mae
trafnidiaeth wledig a seilwaith cyfathrebu gwael wedi'u cael
ar ymdrechion i fynd i'r afael
ag amodau tywydd garw;
3.
Yn credu bod yn rhaid i strategaeth
ymateb i argyfwng Llywodraeth Cymru fod yn effeithiol
wrth ymdrin â'r heriau unigryw
sy'n wynebu cymunedau gwledig; a
4.
Yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried cronfa galedi i gynorthwyo busnesau yr effeithiwyd
arnynt gan dywydd garw.
Derbyniwyd y cynnig heb ei
ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 25/04/2013
Dyddiad y penderfyniad: 24/04/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/04/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad