Cyflwynwyd yr ymateb hwn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
This response was submitted to the Children, Young People and Education Committee on the Welsh Language and Education (Wales) Bill
WLE
18
Ymateb gan: Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr)
Response from: Commission for Tertiary Education and Research
(Medr)
Ymateb Medr i’r ymgynghoriad
1. Medr – pwy ydym ni
1.1 Daeth y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr), fel y’i cyflwynwyd gan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil), yn weithredol ar 1 Awst 2024. Mae Medr yn gyfrifol am gyllido a rheoleiddio darparwyr addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Rydym yn cyllido ac yn rheoleiddio darparwyr prentisiaethau, Colegau addysg bellach, awdurdodau lleol a Phrifysgolion, gan oruchwylio dysgu oedolion yn y gymuned, prentisiaethau, addysg bellach, addysg uwch a darpariaeth chweched dosbarth a gynhelir gan awdurdodau lleol.
1.2 Wrth gyflawni ein dyletswyddau cyllido a rheoleiddio, rhaid i ni ystyried un ar ddeg o ddyletswyddau strategol a nodir yn y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
· Hybu dysgu gydol oes
· Hybu cyfle cyfartal
· Annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol
· Hybu gwelliant parhaus mewn addysg drydyddol
· Hybu gwaith ymchwil ac arloesi
· Hybu cydlafurio a chydlynu mewn addysg drydyddol ac ymchwil
· Cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol
· Hybu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg
· Hybu cenhadaeth ddinesig
· Hybu golwg fyd-eang
· Hybu cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol ac undebau llafur
1.3 Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ynghylch ein cynllun strategol drafft[1]. Mae’r cynllun yn disgrifio ein nodau strategol, sy’n ystyried y dyletswyddau strategol uchod. Un o’r nodau strategol yr ydym yn ymgynghori yn eu cylch yw “Hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg, gan gynyddu’r galw am a chyfranogiad mewn dysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg”. Wrth gyflawni mewn perthynas â’r nod strategol hwn, a ategir gan ein hysgogiadau cyllido a rheoleiddio newydd, rydym yn ymrwymedig i gwrdd â’r uchelgeisiau polisi y mae Bil y Gymraeg ac Addysg yn amcanu at eu galluogi. Rhywbeth sy’n ganolog i gyrraedd ein nod strategol yw’r ymrwymiad, gan weithio gyda rhanddeiliaid eraill, i ddatblygu cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg drydyddol, gan ymateb i’r flaenoriaeth strategol ganlynol gan Lywodraeth Cymru[2]:
“Datblygu cynllun i gynyddu a gwella'r ddarpariaeth addysg ac asesu cyfrwng Cymraeg yn y system drydyddol gyfan, a'i hyrwyddo, gan gydnabod rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel y person dynodedig o dan Adran 9 o Ddeddf 2022 a Cymwysterau Cymru fel y rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol. Mae hyn yn rhan allweddol o'r llwybr di-dor i ddysgwyr at yr addysg drydyddol o'u dewis”.
2. Trosolwg
2.1 Rydym yn cefnogi’r uchelgeisiau beiddgar a nodir gan y Llywodraeth yn Cymraeg 2050 i gyrraedd y targed i greu miliwn o siaradwyr. Mae gan addysg, yn ei chyfanrwydd (addysg y blynyddoedd cynnar, orfodol a thrydyddol), rôl arwyddocaol o ran cynorthwyo’r Llywodraeth i gyrraedd y targed hwn a sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu a bod cymunedau Cymraeg yn cael eu cefnogi a’u cryfhau.
2.2 Mae’r Bil, fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, yn mynd gryn dipyn o’r ffordd i alluogi uchelgais Llywodraeth Cymru yn Cymraeg 2050, ond ein barn ni yw y gellir gwneud rhai gwelliannau cyffredinol yn y meysydd lefel uchel a nodir isod. Dylai’r gwelliannau hyn sicrhau bod y Bil yn darparu mwy o eglurder ynghylch rolau gwahanol sefydliadau, yn enwedig gan adlewyrchu rôl Medr a sut y mae’r Bil yn ffitio yn y system addysg drydyddol ehangach. Bydd defnyddio diffiniadau mwy eglur sy’n adlewyrchu’r gwahaniaethau rhwng dysgu Cymraeg, Cymraeg fel pwnc ynddo’i hun, a dysgu a ddarperir trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn helpu i ddarparu eglurder a chyfeiriad defnyddiol ar gyfer yr holl randdeiliaid. Mae angen bod yn gliriach hefyd ynglŷn â goblygiadau ariannol y newid sy’n ofynnol, yn enwedig mewn perthynas â’r gweithlu a chost y ddarpariaeth.
Eglurder ynghylch rolau sefydliadau
2.3 Rydym yn deall mai’r bwriad polisi yw adlewyrchu trefniadau cyfredol ac, yng nghyd-destun addysg drydyddol, canolbwyntio ar gynyddu nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg a gwella gallu pobl i siarad Cymraeg. Fodd bynnag, ein barn ni yw nad yw rolau rhai sefydliadau yn y sector addysg drydyddol, yn enwedig Medr a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi’u disgrifio’n glir yn y Bil nac yn y memorandwm esboniadol. Er ein bod yn cydnabod mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw gosod polisi lefel uchel, mae diffyg cyfeiriad eglur at rôl Medr yn creu peth amwysedd o ran sut y bydd y fframwaith cenedlaethol yn cael ei ddatblygu. Hefyd, bydd eglurder ynghylch rôl yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol newydd yn cael ei gryfhau trwy gyfeirio at sut y bydd yn gweithredu mewn addysg drydyddol ochr yn ochr â Medr a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
2.4 Gwneir y sylwadau hyn yng nghyd-destun sicrhau cydlyniant ac eglurder i’r rhai sy’n gweithredu yn y system addysg drydyddol. Sefydlwyd Medr yn dilyn argymhellion yn Adolygiad Hazelkorn[3], a amlygodd y potensial i wella cydlyniant ar draws y sector addysg drydyddol yng Nghymru. Gallai’r Bil, fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, gael ei wella trwy gynnwys mwy o ffocws ar fanteision ymarferol cydlyniant yn y sector trydyddol, gan gynnwys darpariaeth Gymraeg, i ddysgwyr. Gallai’r newidiadau a gynigir yn y Bil hwn arwain at fwy o alwadau ar ddarparwyr addysg drydyddol ac, oni bai ei fod yn cael ei ddeall a’i ystyried yn iawn yng nghyd-destun y system gyfan, gallai hyn gael effaith negyddol ar gyrraedd y nodau datganedig, neu ar y deilliannau ar gyfer y dysgwr.
Angen am ddiffiniadau mwy eglur
2.5 Gellid gwneud gwelliannau pellach hefyd trwy ddatrys peth o’r amwysedd yn yr iaith a ddefnyddir drwy’r Bil i gyd. Rydym yn cydnabod bod angen i Medru roi mwy o sylw i’r iaith y mae’n ei defnyddio yn y maes hwn hefyd. O’n safbwynt ni, mae’r amwysedd hwnnw’n cael ei amlygu’n bennaf drwy’r Bil wrth gyfeirio at y mathau o ddysgu a allai berthyn i’r diffiniad o ddysgu Cymraeg, Cymraeg fel pwnc ynddo’i hun, a dysgu a gyflwynir trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Hefyd, mae angen iddo fod yn glir lle gall fod angen term sy’n cwmpasu popeth. Mae cynyddu niferoedd y bobl sy’n dysgu sgiliau Cymraeg, yn astudio Cymraeg fel pwnc ynddo’i hun, ac yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hollbwysig i greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Dylai datrys yr amwysedd hwn, ochr yn ochr â disgrifiadau pellach o sefydliadau eraill a’u rolau a’u cyfrifoldebau yn y maes polisi hwn, helpu i wneud y trefniadau’n fwy eglur.
2.6 Yn y maes hwn, rydym ni’n meddwl bod gan y Bil gyfle i wella eglurder y diffiniadau a ddefnyddir ar gyfer y sector cyfan. Mae’n debygol mai’r termau a’r diffiniadau a ddefnyddir yn y Bil hwn fydd yr iaith a fabwysiedir ar gyfer yr holl sefydliadau hynny y mae’n effeithio arnynt, wrth iddynt geisio dangos eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Os yw’r termau a’r diffiniadau yn y ddeddfwriaeth yn eglur ac yn adnabyddadwy, yna gall fod yn haws i sefydliadau sy’n allweddol i gyflawni’r trawsnewid hwn gyfleu’r newid yn effeithiol a gwireddu ein huchelgeisiau cyfunol. Rydym ni’n meddwl y dylai diffiniadau gwell a mwy eglur, y gellir eu deall yn eang, gael eu datblygu trwy drafodaethau rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol wrth i’r Bil hwn ddatblygu.
Eglurder ynghylch adnoddau
2.7 I wireddu dyheadau Llywodraeth Cymru yn Cymraeg 2050, rydym yn cydnabod y newid sylweddol sy’n ofynnol ar draws y Llywodraeth, cyrff cyhoeddus, sefydliadau addysg a chymdeithas yn ei chyfanrwydd. Mae hyn yn galw am gydweithio ac arweinyddiaeth gref yr ydym ni, yn Medr, yn ymrwymedig i’w darparu yn y sector addysg drydyddol. Fodd bynnag, mae angen i ni i gyd gydnabod y bydd diwygio sylfaenol a chynyddu perfformiad yn sylweddol yn gryn her gyda’r cyfyngiadau ariannol cyfredol a chyllidebau sy’n gryn her. Bydd yn rhaid wrth sgyrsiau gonest, tryloyw i dargedu cyllid lle gall yr uchelgeisiau hyn gael eu gwireddu’n fwyaf effeithiol, gan ystyried heriau eraill y mae’n rhaid i ni, ar draws y system addysg yng Nghymru, fynd i’r afael â hwy ar frys, gan gynnwys gwella cyfranogiad, tegwch a lleihau anfantais gymdeithasol ledled Cymru.
2.8 Rhaid i ni i gyd fod yn ymwybodol mai dim ond gan weithlu â digon o adnoddau ac wedi’i uwchsgilio’n ddigonol ar draws y system addysg gyfan yng Nghymru y gall y diwygiadau hyn gael eu cyflawni. Mae hynny hefyd yn cynnwys bod â digon o gapasiti ar gyfer ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n hollbwysig i gefnogi gweithlu gwybodus sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Nid yw’r gofynion o ran y gweithlu i gyflawni’r newid hwn yn cael eu cydnabod ddigon yn y Bil o ran y goblygiadau ariannol. Wrth graffu ar y Bil yn ystod gwahanol gyfnodau proses y Senedd, mae angen cydnabod hyn.
3. Egwyddorion Cyffredinol Bil y Gymraeg ac Addysg
Rhan Un – Hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg
3.1 Fel yr ydym wedi dweud, rydym yn cefnogi’r Bil, ac yn cydnabod y rhesymeg polisi dros gynnwys y targed ar gyfer miliwn o siaradwyr ar sylfaen statudol, ochr yn ochr â gosod rhai targedau mwy penodol yn Adran 1 o’r Bil. Wrth i ni gymryd camau ar y cyd i wireddu uchelgais y strategaeth, mae angen sicrhau nad yw’r deilliannau polisi bwriadedig yn cael eu gweld o safbwynt targedau yn unig. Bydd angen dull mwy cynnil i daro cydbwysedd rhwng monitro cynnydd i gyrraedd y targedau ar y naill law a chymorth parhaus i’r rhai sy’n cymryd pob cam rhesymol i gyrraedd targedau ond a hwythau’n peidio â’u cyrraedd o bosibl ar y llaw arall. Os oes bwriad i osod targedau ar gyfer darparwyr addysg drydyddol yna Medr, gan ddefnyddio’i ysgogiadau rheoleiddio a chyllido, ddylai osod y targedau hyn.
3.2 Rydym yn cydnabod, gyda deddfwriaeth mor arwyddocaol, bod angen rhoi mesurau priodol ar waith i alluogi Comisiynydd y Gymraeg i ddefnyddio’i bwerau i gefnogi uchelgais y Bil. Mae’r diwygiadau i safonau a gynigir yn y Bil i’w gweld yn gymesur i’r perwyl hwnnw. Mae’n bwysig cydnabod hefyd, serch hynny, nad Safonau eu hunain yw’r unig erfyn i gynorthwyo’r Comisiynydd i gyflawni’r bwriad polisi yn y Bil hwn. Mae’r camau diweddar gan y Comisiynydd i ddatblygu dull cyd-reoleiddio a phennu deilliannau rheoleiddiol, yr ydym yn eu cefnogi, yn un enghraifft o hyn.
Rhan Dau – Disgrifio Gallu yn y Gymraeg
3.3 Bydd sefydlu’r cysyniad o wahanol fathau o ddefnyddwyr y Gymraeg yn ddatblygiad arwyddocaol i ddarparwyr addysg drydyddol, wrth iddynt gynnwys lefelau cyfeirio cyffredin yn eu rhaglenni astudio a’u polisïau recriwtio eu hunain. Byddwn yn gweithio gyda darparwyr addysg drydyddol, a phartneriaid allweddol eraill, i archwilio’r ffordd fwyaf effeithiol i lefelau cyfeirio cyffredin gael eu defnyddio ar draws addysg drydyddol yng Nghymru. Byddwn hefyd yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill i wneud y lefelau hynny’n rhan o’n polisïau recriwtio.
Rhan Tri – Addysg Gymraeg
3.4 Rydym yn cefnogi’r mesurau a gymerir yn Rhan Tri o’r Bil. Fodd bynnag, rydym yn teimlo nad oes digon o gydnabyddiaeth i’n rôl gynllunio mewn addysg drydyddol ac fel cyllidwr darpariaeth chweched dosbarth mewn ysgolion. Mae chweched dosbarth mewn ysgolion yn hollbwysig i ddarparu addysg Gymraeg a sicrhau bod yr iaith yn ffynnu. Fodd bynnag, ni ellir gwahanu’r lleoliadau chweched dosbarth hynny oddi wrth swyddogaeth ysgol ar y cyfan ac mae defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar ysgolion lle mae darpariaeth addysg Gymraeg yn y cwestiwn, sef y dull cywir, heb gydnabod dyletswyddau Medr mewn perthynas â darpariaeth chweched dosbarth yn creu risg o gynyddu anghydlyniant. I liniaru hyn, rydym ni’n argymell bod y memorandwm esboniadol yn amlygu pan fo ysgol, sydd â chweched dosbarth, yn paratoi cynllun cyflawni addysg Gymraeg, bod rhaid iddi ystyried gofynion rheoleiddiol Medr, yn enwedig fel a nodir yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr.
Rhan Pedwar – Fframwaith Cenedlaethol
3.5 Mae gan Medr rôl cynllunio strategol fel cyllidwr a rheoleiddiwr addysg drydyddol yng Nghymru. Mae dyletswydd arnom i gyflawni ein cyfrifoldebau deddfwriaethol, a nodir i raddau helaeth yn y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ac i ystyried blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ein cynllun strategol. Rhan o’n rôl yw sicrhau, pan ydym yn nodi trefniadau cyllido a rheoleiddio ar gyfer addysg drydyddol, ein bod yn gwneud hynny gydag ymwybyddiaeth o drefniadau y mae Llywodraeth Cymru’n eu rhoi ar waith ar gyfer addysg orfodol. Mae hyn yn hollbwysig i alluogi dysgwyr i gamu ymlaen o addysg orfodol i addysg drydyddol. Mae dod â’r trefniadau ar gyfer addysg orfodol a dysgu Cymraeg ynghyd mewn un fframwaith yn rhoi’r cyfle i Medr ddatblygu cynllun cenedlaethol ategol ar gyfer addysg drydyddol lle mae ganddo oruchwyliaeth glir ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a Chymraeg fel pwnc. Fodd bynnag, er ein bod yn deall mai bwriad y fframwaith yw cwmpasu rôl dysgu Cymraeg mewn addysg drydyddol yn unig, rydym yn teimlo y gellid cryfhau’r Bil i sicrhau eglurder. Wrth i ni fwrw ymlaen â’n hymrwymiad strategol i ddatblygu cynllun cenedlaethol, rydym mewn deialog weithredol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i weithio trwy unrhyw gyd-ddibyniaethau â’r fframwaith cenedlaethol arfaethedig.
3.6 Er bod y Bil yn diffinio sut y mae’r fframwaith yn ystyried addysg orfodol, nid yw’n datgan yn benodol sut y bydd y fframwaith yn ystyried addysg drydyddol, yn enwedig o ystyried na ddarperir diffiniad eglur ar gyfer dysgu Cymraeg. Mae’r diffyg diffiniad a diffyg cydnabyddiaeth benodol i rôl Medr yn y memorandwm esboniadol yn golygu y gellid darllen cyfeiriadau at y sector addysg drydyddol fel rhai sy’n awgrymu bod y fframwaith yn cwmpasu addysg cyfrwng Cymraeg a phynciau Cymraeg mewn addysg drydyddol nid dim ond darpariaeth ‘dysgu Cymraeg’. Mae gan hyn yn arbennig y potensial i greu dryswch ac anghydlyniant yn y sector addysg drydyddol yng nghyd-destun y cyfeiriadau at addysg uwch fel a nodir yn adrannau 23 (3) a (4) y Bil, ac o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi pennu blaenoriaeth strategol i Medr ddatblygu cynllun i gynyddu a gwella'r ddarpariaeth addysg ac asesu cyfrwng Cymraeg yn y system drydyddol gyfan, a'i hyrwyddo. Ein hargymhelliad ni fyddai, yn y memorandwm esboniadol, bod rôl Medr yn cael ei disgrifio’n glir mewn perthynas â Chymraeg fel pwnc a darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg drydyddol a’i gwneud yn glir nad yw o fewn cwmpas fframwaith Llywodraeth Cymru. Bydd yr ychwanegiadau hyn yn darparu eglurder ynghylch y cyd-destun y bydd y fframwaith cenedlaethol hwn yn cael ei ddatblygu ynddo, a sut y bydd yn cael ei ddatblygu. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd ynghylch y rolau a’r cyfrifoldebau i Medr, Llywodraeth Cymru, y sector addysg drydyddol a phartneriaid allweddol eraill megis y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (fel y corff dynodedig i roi cyngor i Medr i hybu addysg drydyddol trwy gyfrwng y Gymraeg).
3.7 Gan gydnabod rôl Medr, dylai’r Bil gael ei ddiwygio hefyd i adlewyrchu, pan fo awdurdod lleol yn paratoi cynllun strategol Cymraeg mewn addysg, ei fod yn ymgynghori â Medr, a’i fod hefyd yn ystyried unrhyw gynigion ar gyfer ailstrwythuro darpariaeth chweched dosbarth yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
3.8 Rydym yn croesawu’r gofyniad y dylai cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg lleol gynnwys sefydliadau addysg bellach fel ymgyngoreion statudol. Dylai hyn hefyd gynnwys darparwyr addysg drydyddol eraill, gan gynnwys sefydliadau addysg uwch lleol, gan gyd-fynd ag ysgogydd mwy eglur y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil ar gyfer mwy o gydweithio ar draws addysg yng Nghymru. Mae angen i brosesau cynllunio a rhannu gwybodaeth gael eu cydgysylltu'n well ar bob lefel yn y system addysg, gan gynnwys rhwng darparwyr addysg orfodol a thrydyddol, fel bod llwybrau mwy eglur yn cael eu datblygu ar draws addysg yng Nghymru gyda hynny’n cael ei oleuo gan sgiliau Cymraeg dysgwyr. Bydd hyn yn galluogi darparwyr addysg drydyddol nid yn unig i gynyddu a gwella addysg drydyddol ac ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg, a Chymraeg fel pwnc, ond hefyd i roi anogaeth i hybu’r Gymraeg yn fwy ar draws profiad trydyddol ehangach dysgwyr. Dylai’r ddarpariaeth yn y sector addysg drydyddol adeiladu ar sgiliau iaith a hyder ieithyddol presennol dysgwyr, yn ogystal â chreu siaradwyr Cymraeg newydd. Bydd yr angen hwn yn goleuo sut yr ydym yn cyflawni ymrwymiadau ein cynllun strategol ac yn datblygu ein system rheoleiddio a chyllido newydd.
Rhan Pump – Yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol
3.9 Rydym ni o’r farn bod y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhanddeiliad pwysig ac rydym yn trafod gyda hi sut y gallwn, ar y cyd, ddarparu eglurder i’r sector addysg drydyddol. Yn y dyfodol, byddwn yn trin yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol (yr Athrofa) yn yr un modd. Byddwn yn cydweithio’n agos i sicrhau: nad oes dyblygu rhwng ein cyllid ni a’i dyraniadau hi; nad oes baich gweinyddol ychwanegol ar ddarparwyr rhwng ein ceisiadau ni a cheisiadau’r Athrofa am ddata; bod gwybodaeth yn cael ei rhannu i alluogi Medr a’r Athrofa i wneud penderfyniadau a oleuir gan dystiolaeth; a bod darparwyr addysg drydyddol yn gweithio gyda’r Athrofa i gynorthwyo dysgwyr i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
3.10 Yn yr un cyd-destun â’n sylwadau uchod, ac o ystyried y cyfeiriadau at addysg drydyddol yn y rhan hon o’r Bil, mae’r diffyg cyfeiriad at rôl Medr a rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ochr yn ochr â diffyg diffiniadau pellach ar gyfer dysgu Cymraeg a darparwyr dysgu Cymraeg, yn creu potensial pellach ar gyfer amwysedd. Rydym yn deall bod y Bil, fel y’i drafftiwyd, yn cyfeirio at ddysgu Cymraeg yn y rhan hon o’r Bil dim ond fel dysgu i wella sgiliau Cymraeg yn y sector addysg drydyddol. Ein hargymhelliad ni yw y byddai rhoi diffiniadau clir i egluro hyn mewn deddfwriaeth a rolau Medr, yr Athrofa a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y memorandwm esboniadol, yn darparu cyd-destun defnyddiol i fframio’r dyletswyddau statudol newydd ar gyfer yr Athrofa.
3.11 Mae gennym ddyletswyddau cyffredinol yn adran 52 a 53 y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil mewn perthynas ag ansawdd addysg drydyddol. Byddai cyflwyno’r Athrofa’n dod â hi o fewn cwmpas rhai o bwerau Medr ar gyfer ansawdd. Mae angen i eglurder o ran sut y bydd Llywodraeth Cymru, yr Athrofa, Medr ac Estyn (a fydd yn arolygu’r ddarpariaeth a gynigir gan yr Athrofa) yn gweithredu yn y cyd-destun hwnnw gael ei ystyried yn briodol. Rydym yn bwriadu trafod hyn ymhellach gyda phob parti i sicrhau bod trefniadau digon eglur ar gyfer yr holl sefydliadau o ran rolau a chyfrifoldebau, ac i sicrhau cydlyniant ar draws y sector addysg drydyddol gan alluogi deilliannau da ar gyfer dysgwyr.
3.12 Hefyd, mae angen i’r cynigion ar gyfer darparu pwerau i’r Athrofa mewn perthynas â chyfle cyfartal, gwella’n barhaus, a phennu fframweithiau ansawdd gael eu hystyried yn y cyd-destun bod y canolfannau sy’n cyflwyno’r ddarpariaeth ar gyfer dysgu Cymraeg yn rhan o ddarparwyr addysg drydyddol ehangach sy’n ddarostyngedig i ofynion Medr ar gyfer yr un materion. Ceir risg gyda’r Bil, fel y mae wedi’i ddrafftio, y gallai fod baich ychwanegol ar ddarparwyr os nad yw’r gofynion a osodir gan yr Athrofa a Medr yn cyd-fynd â’i gilydd. Mae Medr wedi’i nodi ar hyn o bryd fel ymgynghorai statudol pan fo’r Athrofa’n datblygu ei chynllun strategol, ond byddem hefyd yn disgwyl i’r Athrofa ystyried y gofynion a bennir gan Medr ar gyfer darparwyr addysg drydyddol wrth gyflawni eu dyletswyddau yn adrannau 39 a 40 y Bil. Gellid cyflawni hyn trwy roi dyletswydd mewn deddfwriaeth ar yr Athrofa, neu drwy ddisgwyliadau ynghylch ffyrdd o weithio, yn y memorandwm esboniadol.
3.13 Gallai fod gwelliannau i’r Bil hefyd trwy sicrhau bod ymgysylltu â dysgwyr yn ddyletswydd i’r Athrofa, gan ystyried y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr ehangach y bydd Medr yn ei ddatblygu i gyflawni’r dyletswyddau yn y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Bydd hyn yn unol â’r egwyddor bod dysgwyr yn ganolog i’r system addysg drydyddol yng Nghymru.
4. Unrhyw rwystrau posibl i weithredu darpariaethau'r Bil ac a yw'r Bil yn eu hystyried (gan gynnwys cychwyn a Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig)
4.1 Nid oes unrhyw sylwadau gennym ar y mater hwn.
5. Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)
5.1 Mae pwerau priodol yn cael eu cynnig i sicrhau bod y Senedd yn trafod newidiadau sylweddol a wneir trwy reoliadau. Fel a nodwyd uchod, byddai rhai o’r meysydd a allai fod o fewn cwmpas y rheoliadau’n croestorri rôl Medr ond dylai’r gwelliannau a awgrymir fynd i’r afael â hyn.
6. Goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).
6.1 Fel yr ydym wedi’i nodi yn ein trosolwg, bydd angen buddsoddiad sylweddol i roi’r Bil ar waith yn llawn. Mae hyn yn cynnwys cydnabod cost gymharol uchel rhoi darpariaeth cyfrwng Cymraeg lle mae’r ddarpariaeth yn Saesneg gan mwyaf a lle mae angen buddsoddiad sylweddol i gynnal a thyfu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
6.2 Ceir hefyd heriau sylweddol mewn perthynas â bod â niferoedd digonol o staff addysgu sydd â’r sgiliau i ddarparu addysg a hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg. Ar hyn o bryd mae darparwyr addysg gychwynnol athrawon yn ei chael hi’n anodd recriwtio i’w niferoedd hyfforddeion cyfredol, sy’n dwyn goblygiadau ar gyfer argaeledd staff addysgu yn y dyfodol, y byddai’n eithriadol o anodd darparu mwy o addysg cyfrwng Cymraeg a honno’n ehangach ei hystod hebddynt.
6.3 Mae darparwyr addysg drydyddol dan bwysau ariannol sylweddol yn y cyd-destun cyfredol, a bydd cyflawni twf mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg heb adnoddau ychwanegol yn her eithriadol, ac mae’n risg i gyflawni’r Bil hwn ac i gyrraedd y targedau a nodir yn Cymraeg 2050.
[1] Mae hwn i’w gael ar ein gwefan Cynllun Strategol Medr 2024
[2] Fel a nodir ar wefan Llywodraeth Cymru
[3] Mae hwn i’w gael yma ar wefan Llywodraeth Cymru https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-02/tuag-at-2030-fframwaith-ar-gyfer-datblygu-system-addysg-ol-orfodol-or-radd-flaenaf-i-gymru.pdf