Senedd Cymru 
Ymchwil y Senedd
Adroddiad monitro cysylltiadau rhyngwladol

Mai 2024 – Rhifyn 2
 

 

 

 

Cynnwys

1.         Cyflwyniad.. 3

2.        Cysylltiadau rhyngwladol 4

Cytundebau rhyngwladol 4

Y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon.. 5

Cenedl Noddfa.. 5

Cymru ac Affrica.. 6

Y DU a Rwanda.. 7

Gaza.. 8

Diweddariadau o bob rhan o'r DU.. 9

3.        Ewrop.. 10

Cytundeb Masnach a Chydweithredu a Chytundeb Ymadael 10

Cyfarfodydd a gynhaliwyd o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu   11

Diweddariadau eraill yr UE.. 12

4.        Ymweliadau Allanol/Mewnol Gweinidogion Llywodraeth Cymru: Ionawr Mawrth 2024. 13

 

                                                                                                            

 

 

 

 

 

 

 

1.            Cyflwyniad

Mae gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol gylch gwaith eang sy'n cwmpasu ystod eang o feysydd. Ym mis Mawrth 2022, nododd y Pwyllgor ei fwriad i fonitro gwaith rhyngwladol Gweinidogion Cymru yn rheolaidd fel rhan o’i strategaeth a’i flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd.

Bwriad yr adroddiad monitro hwn yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau'r Pwyllgor am ddatblygiadau polisi allweddol sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor ym maes cysylltiadau rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys datganiadau perthnasol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn ogystal â chyrff cyhoeddus, partneriaid cyflawni a rhanddeiliaid. Bydd cyhoeddiadau perthnasol gan Ymchwil y Senedd hefyd yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad.

Mae'r adroddiad yn ymdrin â'r cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2024.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2.         Cysylltiadau rhyngwladol

Mae'r adran hon yn rhoi crynodeb o ddatblygiadau allweddol sy'n ymwneud â Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru a diweddariadau perthnasol eraill.

Cytundebau rhyngwladol

Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar ddatblygiadau mewn perthynas â chytundebau rhyngwladol Llywodraeth Cymru. Dangosir wyth o'r cytundebau dwyochrog hyn ar dudalen we bwrpasol a sefydlwyd ar gais y Pwyllgor. Nid yw cytundebau eraill, megis y cytundeb newydd ar gyfer recriwtio ym maes gofal iechyd gyda thalaith Kerala yn India a'i chytundeb cyfeillgarwch rhyngwladol gyda dinas Birmingham, Alabama yn yr Unol Daleithiau, ar y dudalen we.

§    Ym mis Ionawr, aeth Mark Drakeford, y cyn-Brif Weinidog, ar ymweliad tridiau i Silesia yng Ngwlad Pwyl i adnewyddu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a chynllun gweithredu gyda'r Silesian Voivodeship. Bydd y cytundeb a'r cynllun newydd yn canolbwyntio i ddechrau ar wyddorau bywyd, seiber, diogelwch tomenni glo a thrawsnewid gwyrdd, gwyddoniaeth ac arloesedd, addysg a thwristiaeth ddiwydiannol.

§    Ym mis Mawrth, cynhaliodd y cyn-Brif Weinidog gyfarfod gydag Is-lywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw lle buont yn trafod y cysylltiadau rhwng Cymru a Llydaw ac yn llofnodi cynllun gweithredu i gefnogi gweithrediad y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd y llynedd.

§    Cyhoeddodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y byddai Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd yn cael ei adnewyddu. Mae'r cytundeb yn ymdrin â meysydd megis hawliau a thegwch iechyd, buddsoddiad ar gyfer iechyd a llesiant ac amodau sylfaenol hanfodol iechyd, a datblygu cynaliadwy a ffyniant i bawb. Cyhoeddodd ddatganiad hefyd ar ei phresenoldeb mewn digwyddiad i nodi 20 mlynedd o Sefydliad Iechyd y Byd, a dywedodd y byddai'r sefydliad hefyd yn cyhoeddi gwaith ymchwil manwl ar economi llesiant Cymru.

§    Cafodd blwyddyn Cymru yn India ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi ac mae’n cynnwys rhaglen blwyddyn o hyd o ddigwyddiadau, wedi’u cynllunio i ddatblygu a dathlu’r cysylltiadau rhwng Cymru ac India. Mae erthygl Ymchwil y Senedd yn rhoi crynodeb o ymateb y Prif Weinidog i gais y Pwyllgor am ragor o wybodaeth am weithgarwch a chostau.

§    Cyfarfu Cymru yn yr Almaen â chydweithwyr i weithio ar weithgareddau’n ymwneud â’r Cyd-ddatganiad Cydweithredu gyda Baden-Württemberg.

§    Cyfarfu’r cyn-Brif Weinidog â Gweinidog-Lywydd Fflandrys i drafod y cynnydd ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a rennir.

Y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon

Mae'r adran hon yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon, yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor i’r cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon. Mae rhagor o wybodaeth ar gael mewn erthygl a gyhoeddwyd gan Ymchwil y Senedd.

§    Rhannodd Llywodraeth Cymru adroddiad gyda'r Pwyllgor ar ddysgu o secondiad un o swyddogion Llywodraeth Cymru i'r Adran Materion Tramor yn Llywodraeth Iwerddon, a oedd yn ymrwymiad o dan y Cyd-ddatganiad rhwng Cymru ac Iwerddon a’r Cynllun Gweithredu ar y Cyd. Roedd yr adroddiad yn nodi manteision y secondiad, gan gynnwys cynnydd mewn ymgysylltiad rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon. Roedd yr adroddiad yn cynnig y dylid ymgymryd â dysgu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon yn y flwyddyn i ddod a thros ystod o feysydd polisi. Er mwyn hwyluso dysgu ar y cyd, mae'r adroddiad hefyd yn nodi y bydd gweinidogion yn ymgysylltu'n rheolaidd, yn hwyluso ymgynghoriadau ar lefel swyddogol ac yn trefnu ymweliadau safle neu astudio ar y cyd. Bydd adroddiad cynnydd yn cael ei baratoi ar gyfer Fforwm Iwerddon a Chymru yn 2024.

§    Ym mis Mawrth, aeth y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar ymweliad Dydd Gŵyl Dewi i Iwerddon i drafod y Cyd-ddatganiad rhwng Iwerddon a Chymru, a chynllun peilot Llywodraeth Iwerddon sy’n ymwneud ag Incwm Sylfaenol i'r Celfyddydau.

§    Ym mis Ionawr, ymwelodd y cyn-Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant â Dulyn i fynychu Cyfarfod Gweinidogol Cyngor Prydain ac Iwerddon ar Gyffuriau ac Alcohol. Diben y cyfarfod oedd adolygu gweithgarwch ffrwd waith y Cyngor ar Gyffuriau ac Alcohol a thrafod blaenraglen waith arfaethedig.

Cenedl Noddfa

Mae'r adran hon yn amlinellu datblygiadau sy'n ymwneud â chynllun ffoaduriaid a cheiswyr lloches Llywodraeth Cymru (Cenedl Noddfa), sy'n nodi manylion am y gefnogaeth y bydd y llywodraeth yn ei darparu i'r grwpiau hynny yng Nghymru.

§    Wedi’i lansio fel rhan o becyn cymorth ehangach, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y cynllun Tocyn Croeso yn 2022. Roedd yn gynllun trafnidiaeth gyhoeddus am ddim gyda'r nod o gefnogi ffoaduriaid o Wcráin, Affganistan a gwledydd eraill. Daeth i ben ar 31 Mawrth 2024. Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y bydd y cynllun yn cael ei adolygu, gyda’r bwriad o sefydlu cyfnod newydd yn 2024. Mae Lesley Griffiths wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros gydgysylltu materion yn ymwneud â cheiswyr lloches a ffoaduriaid fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol.

§    Cafodd y Pwyllgor lythyr gan y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar gefnogaeth i Wcráin a ffoaduriaid Wcráin. Roedd y llythyr yn amlinellu ystod o gefnogaeth ddiwylliannol, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth o ddyddiadau diwylliannol pwysig yn Wcráin ac ymgysylltu â sefydliadau Sgowtiaid Pwylaidd a Chymreig i gefnogi plant i ymuno â sefydliad ieuenctid, tra'n cynnal ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol.

§    Ym mis Chwefror, gwnaeth y cyn-Weinidog hefyd ddatganiad i nodi dwy flynedd ers y goresgyniad yn Wcráin. Cyfeiriodd at gyhoeddiad Llywodraeth y DU y gall y rhai sydd â fisâu cynllun Wcráin ymestyn eu hawl i aros yn y DU am 18 mis arall. Nododd hefyd sefydlu bwrdd trosolwg strategol Cenedl Noddfa, y dywedodd y Gweinidog ei fod yn cynnwys aelodau o “arweinwyr awdurdodau lleol, cynrychiolwyr o'n gwasanaethau sector cyhoeddus yn fwy eang, partneriaid yn y trydydd sector a chynrychiolwyr o'r Swyddfa Gartref a'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau”.

Cymru ac Affrica

Ymrwymodd Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru i ehangu ac ailenwi’r rhaglen Cymru o Blaid Affrica, sydd â’r nod o ddatblygu cysylltiadau a phartneriaethau cymunedol gyda gwledydd yn Is-Sahara Affrica. Wedi hynny, cyhoeddodd Gynllun Gweithredu Cymru ac Affrica. Mae cynlluniau o dan y rhaglen 'Cymru ac Affrica' yn cynnwys cynllun grant Cymru ac Affrica a Hub Cymru Affrica, sy'n darparu canllawiau ynghylch codi arian ar gyfer prosiectau yn Affrica. Mae'r adran hon yn darparu diweddariadau mewn perthynas â'r rhaglen, a mentrau eraill yng Nghymru i gefnogi cymunedau yn Affrica.

§    Agorodd rownd chwech o gynllun Grant Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru i geisiadau am gyllid ar 11 Mawrth. Caeodd ar 15 Ebrill.

§    Cyhoeddodd Hub Cymru Affrica y bydd yn cymryd drosodd fel partner cynnal ar gyfer Panel Cynghori yr Is-Sahara, gan ddisodli Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

§    Cyhoeddodd Bawso, sefydliad sy’n darparu cymorth i fenywod du a lleiafrifol y mae cam-drin yn effeithio arnynt, brosiect Cymru ac Uganda i weithio gyda Phrosiect Grymuso Cymunedol Sebei yn Uganda i fynd i’r afael â’r arfer o anffurfio organau rhywiol merched.

Y DU a Rwanda

Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gytundeb lloches y DU a Rwanda ar 8 Ionawr 2024 a chytunodd i ofyn am farn Llywodraeth Cymru ar faterion penodol o fewn cylch gwaith y Pwyllgor, gan gynnwys rhwymedigaethau rhyngwladol a Chonfensiwn Sewel.

Ym mis Chwefror 2024, dywedodd y cyn-Brif Weinidog ei fod yn gwerthfawrogi’r cyfle i rannu barn Llywodraeth Cymru ar y Cytundeb a Bil Diogelwch Rwanda (Lloches a Mewnfudo) (sydd bellach yn Ddeddf). Rhan o ddiben y Ddeddf yw gweithredu'r Cytundeb. Yn ei ymateb, dywedodd:

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Gweinidogion Cymru wedi datgan dro ar ôl tro – a dyma yw ein barn o hyd – nad yw cynigion i gadw’n gaeth a symud ymaith bawb sy’n cyrraedd drwy ddulliau afreolaidd yn ymarferol nac yn foesegol. Rydym wedi ei gwneud yn glir bod angen i system effeithiol gydymffurfio â Chonfensiwn Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae hefyd angen i system effeithiol gynnwys cytundebau dychwelyd effeithiol â gwledydd diogel lle y mae cysylltiadau yn bodoli, a llwybrau diogel a chyfreithlon digonol i’r DU.

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru:

§    o’r farn bod cynnwys y ddau yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl. Nid yw o’r farn bod angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.

§    yn bryderus o hyd na all yr Ysgrifennydd Cartref ddatgan bod y Bil yn gydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

§    yn rhwystredig bod ewyllys Senedd Cymru wedi’i hanwybyddu pan gafodd gydsyniad deddfwriaethol ei atal mewn perthynas â Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 a Deddf Mudo Anghyfreithlon 2023.

§    o’r farn o hyd bod gan y darpariaethau a amlygwyd yn y Deddfau hynny bwrpas deuol sy’n effeithio ar gymhwysedd y Senedd. Yn yr achosion hynny, nid yw Llywodraeth Cymru o’r farn bod Confensiwn Sewel wedi’i ddilyn. Mewn perthynas â’r Bil Diogelwch Rwanda (Lloches a Mewnfudo) a’r cytundeb cysylltiedig, nid yw o’r farn bod Confensiwn Sewel ar waith.

§    wedi tynnu sylw Gweinidogion y DU at y sefyllfa yn sgil colli Rheoliad Dulyn III a chronfa ddata EURODAC o ganlyniad i’r DU yn ymadael â’r UE. Mae’n datgan:

Roedd y systemau hyn yn galluogi’r DU i ddychwelyd unigolion i Aelod-wladwriaethau eraill lle’r oedd cysylltiadau yn bodoli. Mae masnachwyr a smyglwyr pobl yn gwybod na all y DU ddibynnu mwyach ar y cydweithio hwn ledled Ewrop sy’n gwneud y DU yn gyrchfan llawer mwy deniadol

Gaza

Ar 23 Ebrill 2024, nododd y Prif Weinidog newydd ei safbwynt ar y sefyllfa yn Gaza.

Safbwynt Llywodraeth Cymru ers cryn amser yw y dylai fod cadoediad ar unwaith. Mae angen cynnydd sylweddol i lwybrau ar gyfer cymorth, yn ogystal â faint o gymorth sy'n cael ei ddarparu, oherwydd mae argyfwng dyngarol gwirioneddol yn digwydd o'n blaenau, yn ogystal â datrys y materion ynghylch yr erchyllterau a ddigwyddodd ar 7 Hydref, sy'n cynnwys rhyddhau'r holl wystlon. Nawr, nid wyf i'n credu, ar draws y Siambr hon, y bydd pobl yn anghytuno â'r safbwynt hwnnw. Ein her yw lefel y dylanwad sydd gennym ni ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y rhanbarth, y sgyrsiau sy'n cael eu cynnal rhwng gwahanol weithredwyr i geisio sicrhau cadoediad, a'r gallu i roi terfyn ar y lladd.

Nodwyd hefyd:

Mae Llywodraeth Cymru yn eglur: rydym ni eisiau gweld terfyn ar y lladd ar unwaith, cadoediad; rydym ni eisiau gweld cynnydd sylweddol ar unwaith yn y cymorth y gellir ei ddarparu; rydym ni eisiau gweld gwystlon yn cael eu dychwelyd. Fy safbwynt i o hyd yw mai'r ffordd hirdymor i sicrhau'r sefydlogrwydd a'r diogelwch heddychlon y dylai dinasyddion ei ddisgwyl yw cael Israel hyfyw, ddiogel, fel cymydog i wladwriaeth Balesteinaidd hyfyw a diogel. Rydym ni ymhell i ffwrdd o gyflawni hynny mewn gwirionedd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth dyngarol i Gaza.

Roedd y llythyr diweddaraf, dyddiedig 12 Mawrth 2024, a chan Jane Hutt AS, y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfrannu at apêl DEC, pe bai un yn cael ei lansio a chynigiodd gwrdd â Chadeirydd y Pwyllgor Deisebau i drafod hyn ymhellach.

Ar 17 Ebrill, cytunodd y Pwyllgor hwn i ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf.

Diweddariadau o bob rhan o'r DU

§    Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei strategaeth ryngwladol newydd, sy’n amlinellu ei hamcanion rhyngwladol hyd at 2026. Mae'n adeiladu ar y Fframwaith Materion Byd-eang a'i hymagwedd ffeministaidd at gysylltiadau rhyngwladol. Bydd Llywodraeth yr Alban yn adrodd ar gynnydd yn flynyddol. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar dair prif thema; economi, masnach a buddsoddi; newid hinsawdd, bioamrywiaeth ac ynni adnewyddadwy; a pherthnasoedd, dylanwad ac enw da

§    Roedd cyhoeddiad gan Labordy Polisi Coleg Prifysgol Llundain yn galw am ddiwygio polisi tramor y DU. Roedd yr adroddiad yn awgrymu bod y Swyddfa Dramor yn ei chael yn anodd darparu mandad clir, blaenoriaethu a dyrannu adnoddau, ac roedd yn argymell creu Adran Materion Rhyngwladol newydd neu Global Affairs UK. Roedd yr adroddiad hefyd yn awgrymu hynny er mwyn cyflawni'r diwygiad angenrheidiol.

“We need to harness the combined levers of the state. That requires better central coordination, delivery structures (eg agencies and a development bank) and engagement with domestic stakeholders including devolved administrations”.

 

 

3.         Ewrop

Mae'r adran hon yn rhoi crynodeb o’r newyddion diweddaraf yn ymwneud ag Ewrop, ac yn rhestru diweddariadau pwysig.

Cytundeb Masnach a Chydweithredu a Chytundeb Ymadael

Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o ddatblygiadau o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a’r Cytundeb Ymadael, gan gynnwys unrhyw oblygiadau i’r llywodraethau datganoledig.

§    Cyfarfu’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau’r DU a’r UE ar 6 Mawrth, lle cafodd y cyfarfodydd sydd i ddod o'r Cyngor Partneriaeth Cytundeb Masnach a Chydweithredu a’r Cydbwyllgor Cytundeb Ymadael, a ddisgwylir yn nechrau 2024, eu trafod. Yn bresennol yn y cyfarfod roedd Vaughan Gething AS, cyn-Weinidog yr Economi (bellach yn Brif Weinidog), a alwodd ar Lywodraeth y DU i gynnwys llywodraethau datganoledig yng nghyfarfodydd y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a’r paratoadau ar eu cyfer. Cytunodd y cyfarfod ar y cylch gorchwyl wedi'i ddiweddaru ar gyfer y Grŵp Rhyngweinidogol hwn. Roedd blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru yn cynnwys:

o      Yr angen am gytundeb ar gyd-gydnabod ar asesiadau cydymffurfiaeth.

o      Cadw trefniadau Digonolrwydd Data yr UE.

o      Rheolau mewnforio’r UE sy’n effeithio ar allforio molysgiaid dwygragennog byw.

§    Cyhoeddodd Pwyllgor Craffu ar Faterion Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin ymateb Llywodraeth y DU i’w adroddiad ar gynrychiolaeth y DU yn y UE. Ymatebodd Llywodraeth y DU drwy ddweud bod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a’r UE wedi’i sefydlu i roi cyfle i’r gweinyddiaethau datganoledig wneud sylwadau ar y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a’r Cytundeb Ymadael.

§    Cyhoeddodd y Pwyllgor Arbenigol ar weithredu Fframwaith Windsor gyd-ddatganiad, yn dilyn ei gyfarfod ar 25 Ebrill. Roedd yn nodi adfer sefydliadau Gogledd Iwerddon ac yn trafod gweithrediad y Fframwaith ym meysydd bwyd-amaeth a thollau.

 

Cyfarfodydd a gynhaliwyd o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu

Dangosir cyfarfodydd pwyllgor arbenigol diweddaraf y Cytundeb Masnach a Chydweithredu isod, lle rhestrwyd swyddogion Llywodraeth Cymru fel cyfranogwyr.

Pwyllgor

Dyddiad

Meysydd i'w trafod

Pwyllgor Arbenigol ar Gyfranogiad mewn Rhaglenni Undeb

4 Rhagfyr 2023 (Cyhoeddwyd y cofnodion ar 2 Chwefror 2024)

Croesawodd y Pwyllgor gyfranogiad y DU yn Horizon Europe a Copernicus ond mynegodd yr UE ofid ynghylch penderfyniad y DU i beidio â chymryd rhan yn Euratom a Chyd-Ymgymeriad Euratom ar gyfer Ynni.

Pwyllgor Arbenigol Masnach ar Nwyddau

8 Tachwedd 2023 (Cyhoeddwyd y cofnodion ar 25 Ionawr 2024)

Trafododd y Pwyllgor y Mecanwaith Addasu Ffiniau Carbon a diweddariad ar fentrau cadwyn gyflenwi.

Pwyllgor Arbenigol Masnach ar Gydweithrediad Tollau a Rheolau Tarddiad

27 Medi 2023 (Cyhoeddwyd y cofnodion ar 11 Ionawr 2024)

Clywodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am gyfundrefnau tollau a strategaethau ffiniau. Trafododd hefyd bryderon y diwydiant modurol ynghylch newidiadau yn Rheolau Tarddiad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu ar gyfer batris cerbydau trydan, sydd wedi’i drefnu ar gyfer 2024.

Pwyllgor Arbenigol Masnach ar Gaffael Cyhoeddus

16 Tachwedd 2023 (Cyhoeddwyd y cofnodion ar 22 Chwefror 2024)

Clywodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am Ddeddf Caffael 2023 y DU ac ymagwedd yr UE at gaffael cynaliadwy. Mynegwyd pryderon ynghylch cynlluniau lleihau carbon y DU a’r cynllun ardystio seiber cwmwl yn un o Aelod-wladwriaethau’r UE.

Pwyllgor Arbenigol Masnach ar Gydweithredu Rheoleiddiol

6 Tachwedd 2023 (Cyhoeddwyd y cofnodion ar 23 Ionawr 2024)

Clywodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am raglen Rheoleiddio Craffach Llywodraeth y DU ac agenda Gwell Rheoleiddio’r UE. Trafododd hefyd wella hygyrchedd rheoleiddio drwy ddigideiddio a dulliau rheoleiddio o ymdrin â thechnolegau newydd.

Pwyllgor Arbenigol Masnach ar Degwch yn y Farchnad a Chystadleuaeth Agored a Theg a Datblygu Cynaliadwy

4 Hydref 2023

(Cyhoeddwyd y cofnodion ar 12 Ionawr 2024)

Clywodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am yr elfennau rheoli cymorthdaliadau a gwariant o Gynllun Diwydiannol y Fargen Werdd a Phorthladdoedd Rhydd ac Ardaloedd Buddsoddi y DU.

Diweddariadau eraill yr UE

§    Ym mis Ebrill, cynigiodd y Comisiwn Ewropeaidd gychwyn trafodaethau gyda’r DU ar gytundeb i hwyluso symudedd ieuenctid, a oedd yn ceisio creu modd i bobl ifanc deithio rhwng y DU a’r UE yn haws ac yn hirach. Ers hynny mae wedi cael ei wrthod gan Lywodraeth y DU a’r Blaid Lafur. Roedd dadansoddiad gan y Financial Times yn nodi bod aelod-wladwriaethau’r UE, a oedd yn arfer bod yn agored i drefniant dwyochrog gyda’r DU, wedi penderfynu bod yn rhaid i symudedd ieuenctid fod ar gael yn gyfartal i bob aelod-wladwriaeth. Tra bod Llywodraeth y DU a’r Blaid Lafur ill dau wedi awgrymu y byddai bargen o’r fath yn gyfystyr â symudiad rhydd.

§    Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei ail adroddiad blynyddol ar gynllun preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE, y mae wedi bod yn ei fonitro ers ei sefydlu yn 2021. Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd erthygl yn amlinellu ystadegau diweddaraf Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ac yn rhoi crynodeb o ganfyddiadau'r Pwyllgor.

§    Cafodd y cynigion diweddaraf gan Lywodraeth y DU ar gyflwyno mecanwaith addasu ffiniau carbon yn y DU eu cyhoeddi ym mis Mawrth, a byddent yn rhoi pris carbon ar rai o’r nwyddau diwydiannol mwyaf dwys o ran allyriadau sy’n cael eu mewnforio i’r DU. Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd erthygl yn egluro manylion cynigion y DU, yn ogystal â datblygiadau ym mecanwaith addasu ffiniau carbon yr UE.

§    Bu Derek Vaughan, cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop, yn annerch Pwyllgor Diwylliant ac Addysg Senedd Ewrop a rhoddodd ddiweddariad ar Taith, y rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Roedd papur briffio ysgrifenedig a ddarparwyd i'r Pwyllgor ar Taith yn tynnu sylw at weithgareddau ym Mrwsel. Roedd yn canolbwyntio ar drafodaeth bolisi a drefnwyd yn 2022 ynghylch symudedd addysg. Trefnwyd y digwyddiad gan Addysg Uwch Cymru Brwsel a swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mrwsel.

 

4.         Ymweliadau Allanol/Mewnol Gweinidogion Llywodraeth Cymru: Ionawr – Mawrth 2024

Mae’r tabl a ganlyn yn rhoi manylion am yr holl ymweliadau a wnaed gan weinidogion Llywodraeth Cymru ac ymwelwyr swyddogol sy’n dod i Gymru. Mae’r Pwyllgor yn cael rhestrau misol o’r ymrwymiadau hyn gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnal ei waith monitro ei hun. Mae unrhyw ymweliadau nad ydynt wedi'u cynnwys yn rhestrau Llywodraeth Cymru wedi'u hamlygu yn y tabl.

Gweinidog/Gwestai

Lleoliad

Diben yr ymweliad

Dyddiad

Llysgennad yr Almaen i'r DU

Cymru

Cyfarfodydd gyda’r cyn-Brif Weinidog a chyn-Weinidog yr Economi. Roedd y cyfarfod gyda’r Prif Weinidog yn canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy, symudedd ieuenctid a chysylltiadau agosach ag Ewrop. Roedd y cyfarfod â Gweinidog yr Economi yn canolbwyntio ar y Cyd-ddatganiad ar Gydweithrediad â Baden Württemberg.

Ionawr 2024

India: Cynulliad Deddfwriaethol Maharashtra

Cymru

Cyfarfu Aelodau'r Cynulliad Deddfwriaethol â'r cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i drafod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Mae cynlluniau i gyflwyno Bil aelod preifat tebyg ym Maharashtra.

Ionawr 2024

Cyn-Brif Weinidog

Gwlad Pwyl

Cynhaliodd y cyn-Brif Weinidog ymweliad tridiau â Silesia i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda'r Silesian Voivodeship. (Mae manylion pellach yn yr adran cysylltiadau rhyngwladol).

Ionawr 2024

Cyn-Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Iwerddon

Mynychu Cyfarfod Gweinidogol Cyngor Prydain ac Iwerddon ar Gyffuriau ac Alcohol. (Mae manylion pellach yn yr adran ar y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon)

Ionawr 2024

Uchel Gomisiynydd Bangladesh yn y DU

Cymru

Cyfarfu’r cyn-Brif Weinidog â’r Uchel Gomisiynydd, lle buont yn trafod hyrwyddo’r Gymraeg, addysg yng Nghymru a’r gymuned Bangladeshaidd yng Nghymru.

Chwefror 2024

Cyn-Brif Weinidog

Brwsel

Siaradodd y cyn-Brif Weinidog mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Fforwm Ewrop, cyfarfu â Gweinidog-Lywydd Fflandrys, cynhaliodd drafodaeth bord gron a drefnwyd gan WindEurope a mynychodd ddigwyddiad a gynhaliwyd gan Prifysgolion Cymru. Gyda'r nos, cynhaliodd y Prif Weinidog dderbyniad i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ym Mhreswylfa Llysgennad y DU ym Mrwsel.

Chwefror 2024

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

India

Teithiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i India i lansio blwyddyn Cymru yn India 2024 yn y derbyniad Dydd Gŵyl Dewi ym Mumbai.

Chwefror 2024

Cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

 

Iwerddon

Teithiodd y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Phrif Chwip i Ddulyn i nodi Dydd Gŵyl Dewi. (Mae manylion pellach yn yr adran ar y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon)

Chwefror 2024

Cyn-Brif Weinidog

Llundain

Cyfarfu’r cyn-Brif Weinidog ag Uchel Gomisiynydd India yn Llundain yn nerbyniad Dydd Gŵyl Dewi y Comisiwn.

Chwefror 2024

Cyn-Weinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Llundain

Cyfarfu’r cyn-Weinidog â Llysgennad yr Unol Daleithiau yn Llundain yn nerbyniad Dydd Gŵyl Dewi y Llysgenhadaeth.

Chwefror 2024

Is-lywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw

Cymru

Cynhaliodd y cyn-Brif Weinidog gyfarfod dwyochrog gydag Is-lywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw pan ddaeth i Gymru ar gyfer digwyddiad cloi Cymru yn Ffrainc. 

Mawrth 2024

Cynghorydd Mulot o Gyngor Rhanbarthol Hauts-de-France

Cymru

 

Cynhaliodd y cyn-Brif Weinidog gyfarfod dwyochrog gyda’r Cynghorydd Mulot o Gyngor Rhanbarthol Hauts-de-France pan ddaeth i Gymru ar gyfer digwyddiad cloi Cymru yn Ffrainc. Yn ystod y cyfarfod buont yn trafod symudedd ieuenctid ac ynni gwyrdd, yn enwedig o ran y defnydd o hydrogen.

Mawrth 2024

Gweinidog Addysg Iwerddon

Cymru

Cafodd y cyn-Brif Weinidog gyfarfod anffurfiol gyda Gweinidog Addysg Iwerddon yn ystod ei hymweliad â Chymru i ddathlu Dydd San Padrig. Yn y cyfarfod byr trafodwyd y meysydd cydweithredu a gwmpesir yng Nghyd-ddatganiad Cymru ac Iwerddon.

Mawrth 2024

Llysgennad Denmarc i'r DU

Cymru

Cyfarfu’r cyn-Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd â Llysgennad Denmarc i drafod agwedd Llywodraeth Cymru at gynaliadwyedd, masnach a buddsoddi.

Mawrth 2024

Llysgennad yr Eidal i'r DU

Cymru

Cyfarfu’r cyn-Weinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd â Llysgennad yr Eidal a dirprwyaeth fusnes i ddangos cefnogaeth i gysylltiadau Cymru a’r Eidal ac i gryfhau cysylltiadau â rhanddeiliaid yr Eidal.

Mawrth 2024