Cyfarfodydd
Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/09/2022 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 22/09/2022 - Y Pwyllgor Cyllid
- Trawsgrifiad ar gyfer 22/09/2022 - Y Pwyllgor Cyllid
2 PTN 6 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar Alldro 2020-21 – 5 Awst 2022
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 10/03/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 10/03/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 10/03/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
2 PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch Cynnig Cyllideb Atodol diwygiedig – 2 Mawrth 2021
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 10/03/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 10/03/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 10/03/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
2 PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch cyllid a ddyrannwyd i gefnogi busnes yn ystod y pandemig – 2 Mawrth 2021
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 09/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 11)
- Gweddarllediad ar gyfer 09/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 09/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Trydedd Gyllideb Atodol 2020-21
NDM7622 Rebecca Evans
(Gwyr)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 20.30:
1. Yn cymeradwyo'r Drydedd
Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ddydd Mawrth, 2 Mawrth 2021.
2. Yn nodi bod y
categori adnoddau cronnus ar gyfer Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan
Ran 2 o Atodlen 4 i Gynnig y Gyllideb Atodol ar dudalen 22 wedi'i ddiwygio i
gynnwys 'ad-dalu arian pensiwn dros ben’ fel yr adlewyrchir yn y Memorandwm
Esboniadol a gyflwynwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r Pwyllgor
Cyllid i'w ystyried yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2021.
3. Yn nodi ymhellach
yr addasiadau cyfatebol yn Atodlen 6 ar dudalennau 27 a 28 i gysoni'n gywir yr
adnoddau y gofynnir amdanynt drwy leihau DEL Adnoddau Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru £974,000, cynyddu’r AME Adnoddau £974,000 a chynyddu'r Gronfa
Adnoddau DEL heb ei Dyrannu £974,000.
Troednodyn:
Yn unol â'r
darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20,
mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad
ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y
cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn
ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng
yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r
adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y
symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd
Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
(v) cysoniad rhwng yr
adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr
awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
(vi) manylion am
unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 –
20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o
dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth
ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
-
nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Dogfennau
Ategol
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.52
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7622 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 20.30:
1. Yn cymeradwyo'r
Drydedd Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 2 Mawrth 2021.
2. Yn nodi bod y
categori adnoddau cronnus ar gyfer Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan
Ran 2 o Atodlen 4 i Gynnig y Gyllideb Atodol ar dudalen 22 wedi'i ddiwygio i
gynnwys 'ad-dalu arian pensiwn dros ben’ fel yr adlewyrchir yn y Memorandwm
Esboniadol a gyflwynwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r Pwyllgor
Cyllid i'w ystyried yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2021.
3. Yn nodi ymhellach yr
addasiadau cyfatebol yn Atodlen 6 ar dudalennau 27 a 28 i gysoni'n gywir yr
adnoddau y gofynnir amdanynt drwy leihau DEL Adnoddau Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru £974,000, cynyddu’r AME Adnoddau £974,000 a chynyddu'r Gronfa
Adnoddau DEL heb ei Dyrannu £974,000.
Troednodyn:
Yn unol â'r
darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20,
mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad
ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y
cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn
ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr
adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau
yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y
symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd
Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
(v) cysoniad rhwng yr
adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr
awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
(vi) manylion am unrhyw
newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B
ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan
Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth
ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif
wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
11 |
12 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 03/03/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 03/03/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 03/03/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
6 Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21: Trafod yr adroddiad drafft
Papurau
ategol:
FIN(5)-07-21 P1 –
Adroddiad drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (6/1)
Cofnodion:
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân
newidiadau.
Cyfarfod: 24/02/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 24/02/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 24/02/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
3 Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21
Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Andrew Jeffreys,
Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
Gawain Evans,
Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru
Matthew Denham-Jones,
Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Rheolaeth Ariannol
Papurau
ategol:
FIN(5)-06-21 P1 –
Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21
FIN(5)-06-21 P2 –
Dyraniadau prif grŵp
gwariant
FIN(5)-06-21 P3 –
Nodyn Esboniadol
FIN(5)-06-21 P4 –
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Dull ac amseriad Trydedd Gyllideb
Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 - 1 Chwefror 2021
FIN(5)-06-21 P5 –
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Cronfa Wrth Gefn y DU - 10 Chwefror
2021
Briff Ymchwil
Dogfennau ategol:
- FIN(5)-06-21 P1 – Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21, Eitem 3 PDF 626 KB
- FIN(5)-06-21 P2 – Dyraniadau prif grŵp gwariant, Eitem 3 PDF 441 KB
- FIN(5)-06-21 P3 – Nodyn Esboniadol, Eitem 3 PDF 993 KB
- FIN(5)-06-21 P4 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Dull ac amseriad Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 - 1 Chwefror 2021, Eitem 3 PDF 284 KB
- FIN(5)-06-21 P5 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Cronfa Wrth Gefn y DU - 10 Chwefror 2021, Eitem 3 PDF 282 KB
- Briff Ymchwil , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/6)
Cofnodion:
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch trydedd
gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 gan y tystion a ganlyn:
Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Andrew Jeffreys,
Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru;
Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid; a Matthew Denham-Jones,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaethau Ariannol.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:
- Manylion pellach, drwy'r Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud i wella’r
broses o rannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd.
- Gwybodaeth bellach, drwy'r Gweinidog Tai a Llywodraeth
Leol, ynghylch cronfa galedi’r awdurdodau lleol, ac yn benodol ynghylch y
fformiwla sy'n ymwneud ag arbedion a gollwyd gan awdurdodau lleol o ganlyniad
i'r pandemig.
- Manylion pellach ynghylch y cyllid sydd wedi’i ddyrannu
i gefnogi busnesau yn ystod y pandemig.
Cyfarfod: 24/02/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 24/02/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 24/02/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21: Trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.