Pobl y Senedd

Samuel Kurtz AS

Samuel Kurtz AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Mae'r Senedd hon: 1. Yn croesawu'r gwaith y mae RenewableUK Cymru yn ei wneud i ddod â chynrychiolwyr y sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru ynghyd. 2. Yn cydnabod bod yn rhaid i ddiw...

I'w drafod ar 19/04/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau aelodaeth gweithgor defnyddwyr Taliadau Gwledig Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 16/04/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella diogelwch ar hyd yr A40 rhwng Sanclêr a Chaerfyrddin i holl ddefnyddwyr y ffordd?

Wedi'i gyflwyno ar 05/04/2024

Pam fod Llywodraeth Cymru yn codi llog o 8.25 y cant ar y benthyciad COVID gyda phedwar rhanbarth rygbi Cymru, tra bod clybiau Lloegr yn talu 2 y cant o log i Lywodraeth y DU?

Wedi'i gyflwyno ar 05/04/2024

Pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i gymdeithasau neu glybiau chwaraeon blannu coed ar ffiniau terfyn meysydd chwarae?

Wedi'i gyflwyno ar 21/03/2024

A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o'r meini prawf sy'n eithrio gwyliau hunanarlwyo sy'n methu â chyrraedd y trothwy 182 noson?

Wedi'i gyflwyno ar 21/03/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Samuel Kurtz AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Samuel yn eiriolwr cryf dros gefn gwlad Cymru a'r Gymraeg. Ar hyn o bryd, mae’n is-gadeirydd ar Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Benfro ac mae wedi ennill sawl cystadleuaeth ar lefel Cymru ac ar lefel genedlaethol, gan gynnwys siarad cyhoeddus, adloniant ar lwyfan a materion gwledig. Mae Samuel yn frwd dros chwaraeon, ac mae’n mwynhau chwarae criced, rygbi a phêl-droed.

Hanes personol

Wedi'i eni a'i fagu ar y fferm deuluol gydag unedau gwyliau hunanarlwyo yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae Samuel yn siaradwr Cymraeg a fynychodd ysgolion lleol cyn mynd ymlaen i astudio BA Anrhydedd mewn Gwleidyddiaeth o Brifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste.

Cefndir proffesiynol

Ar ôl graddio, dychwelodd Samuel i Sir Benfro i weithio fel gohebydd i'r Pembrokeshire Herald a'r Western Telegraph, cyn dechrau swydd yn swyddfa'r Aelod Seneddol lleol.

Hanes gwleidyddol

Mae Sam wedi cynrychioli ward Scleddau ar Gyngor Sir Penfro ers 2017 a chafodd ei ethol fel Aelod o’r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ym mis Mai 2021.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Digwyddiadau calendr: Samuel Kurtz AS