Pobl y Senedd

Rhys ab Owen AS

Rhys ab Owen AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Aelod Annibynnol Plaid Cymru

Heb Grŵp

Canol De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith yn enwedig athrawon cyflenwi o ystyried bod llai o siaradwyr Cymraeg yn y rolau hyn?

Wedi'i gyflwyno ar 24/04/2024

Pa sicrwydd y gall yr Ysgrifennydd Cabinet ei ddarparu i radiograffwyr yn GIG Cymru na fydd y Swyddfa Gartref yn eu gorfodi i wneud sganiau pelydr-x ac MRI gwirio oedran ar fudwyr?

Wedi'i gyflwyno ar 22/04/2024

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal y defnydd o fwydydd wedi'u prosesu'n helaeth, yn enwedig ar gyfer plant?

Wedi'i gyflwyno ar 15/04/2024

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw'r cosbau cysgu allan ym Mil Cyfiawnder Troseddol y DU sydd ar ddod yn effeithio ar y Cynll...

Wedi'i gyflwyno ar 15/04/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cyfiawnhau dilyn confensiwn ar eithrio Ystâd y Goron o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru), o ystyried y gost amgylcheddol y gallai hyn ei achosi?

Wedi'i gyflwyno ar 15/04/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb unigrwydd yng Nghymru, yn enwedig ymhlith oedolion hŷn?

Wedi'i gyflwyno ar 12/04/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Rhys ab Owen AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a llwyddiannau

Prif ddiddordebau Rhys yw materion cyfansoddiadol, ymateb i’r argyfwng hinsawdd, dileu tlodi plant a sicrhau bywyd gwell i deuluoedd a phobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Hefyd, mae ganddo ddiddordeb mawr yn hanes lleol Caerdydd a’r iaith Gymraeg, ynghyd â materion cyfreithiol a materion sy’n gysylltiedig â chyfiawnder.

Hanes personol

Cafodd Rhys ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd, lle mynychodd Ysgol Glantaf. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen a chwblhaodd ei gwrs Bar ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Pantyfedwen iddo.

Mae Rhys yn byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig a'u merch.

Cefndir proffesiynol

Cyn ei ethol, bu Rhys yn gweithio fel bargyfreithiwr i Siambrau Iscoed, Abertawe. Mae wedi gwasanaethu fel bargyfreithiwr ers 2010.

Fe’i penodwyd yn Farnwr Tribiwnlys Haen Gyntaf yn y Siambr Hawliau Cymdeithasol (2019 - 2021).

Bu’n aelod o fwrdd cynghori prosiect cyfiawnder ac awdurdodaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru, roedd yn aelod o banel cynllun cyfraith gyhoeddus Llywodraeth Cymru ac yn ddarlithydd y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 2014 a 2019.

Yn 2018-19, bu Rhys yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru fel pennaeth polisi’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, cyn Brif Ustus Cymru a Lloegr.

Hanes gwleidyddol

Yn 2017, safodd Rhys yn etholiad Cyngor Caerdydd yn ward Treganna, lle cynyddodd pleidlais Plaid Cymru o 910 i 2,105.

Ers cael ei ethol i’r Senedd, mae Rhys wedi arwain a chefnogi nifer o ymgyrchoedd amlwg, fel galw am gyfiawnder i bobl sy’n byw mewn adeiladau uchel iawn ym Mae Caerdydd, pensiwn teilwng i fenywod a anwyd yn y 1950au ac ymgyrchu dros system ofal genedlaethol i Gymru i gefnogi a gweithio ar y cyd â Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.

Aelodaeth o grwpiau trawsbleidiol

Etholwyd Rhys yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddementia ddydd Mercher 10 Tachwedd 2021, gyda Jayne Bryant AS wedii hethol yn ddirprwy.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Rhys ab Owen AS