Pobl y Senedd

Sarah Murphy AS

Sarah Murphy AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Pen-y-bont ar Ogwr

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Y Pwyllgor Biliau Diwygio | 21/03/2024

Y Pwyllgor Biliau Diwygio | 21/03/2024

Y Cyfarfod Llawn | 20/03/2024

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi plant sydd â salwch cronig ac angheuol? OQ60858

Y Cyfarfod Llawn | 20/03/2024

Vaughan Gething.

Y Cyfarfod Llawn | 20/03/2024

Y Cyfarfod Llawn | 19/03/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Sarah Murphy AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Sarah yn ymroddedig i hawliau digidol a democratiaeth, a datblygu polisïau amgylcheddol ar gyfer Cymru wyrddach.  Cyn cael ei hethol, roedd Sarah yn Gadeirydd Cymru Gynaliadwy, elusen ym Mhorthcawl sy'n cefnogi datblygiad cynaliadwy yn y gymuned. Yn 2020, creodd y gyfres weminar “Circular Economy: A Design For Life" yr aeth arbenigwyr blaenllaw o bob rhan o Gymru a'r DU iddi. Ym mis Mawrth 2020, sefydlodd Murphy Grŵp Cymorth Coronafeirws Pen-y-bont ar Ogwr sydd ag oddeutu 12,000 o aelodau ac sydd wedi codi arian ar gyfer Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr a Splice Child and Family yn y Pîl.

Hanes personol

Mae Murphy yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda'i phartner.

Cefndir proffesiynol

Ar ôl graddio, symudodd Sarah i Seoul, De Corea i addysgu Saesneg. Mae wedi gweithio yn Llundain i gwmni datblygu eiddo byd-eang. Yn 2016, graddiodd o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd gyda Rhagoriaeth MA mewn Cyfryngau Digidol a Chymdeithas. Dyfarnwyd ysgoloriaeth i Sarah gan Brifysgol Caerdydd a grant gan Leathersellers’ Company Charitable Fund i ymgymryd â’i hefrydiau.  Rhwng 2019 a 2021, bu Sarah yn canolbwyntio ar ei hymchwil lles cymdeithasol a data mawr, yn bennaf ar gyfer y Labordy Cyfiawnder Data ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n ymchwilio i ddefnydd llywodraethau'r DU a rhyngwladol o ddata mawr a dull dylunio algorithmig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus – gyda ffocws ar nodi drygau data posibl a gwahaniaethu yn erbyn plant a theuluoedd. Ymchwiliodd ei phrosiect ymchwil diweddaraf i wyliadwriaeth yn y gweithle sy’n seiliedig ar ddata.

Hanes gwleidyddol

Sarah Murphy oedd Pennaeth Digwyddiadau Llafur Cymru rhwng 2009 a 2012.  Yn 2017, fel Dadansoddwr Ymchwil Lee Waters AC, datblygodd a gweithredodd y llwyfan cyfrannu torfol ar-lein, ffynhonnell agored cyntaf ar gyfer Aelod Cynulliad yng Nghymru. Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2017, cafodd ei phenodi’n Uwch-reolwr Cyfathrebu i Anna McMorrin AS, ac yna’n Uwch-gynghorydd i Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru.  Etholwyd Sarah yn Aelod o’r Senedd Llafur Cymru dros etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn etholiad 2021 gyda mwyafrif o 4,064. Hi yw'r unig fenyw i ennill sedd yn ystod yr etholiad hwn a ddaliwyd yn flaenorol gan ddyn, gan gymryd lle cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones a benderfynodd beidio â sefyll ailetholiad.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Sarah Murphy AS