Pobl y Senedd

Adrian Compton

Adrian Compton

Auditor General for Wales

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol | 11/03/2024

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol | 11/03/2024

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol | 11/03/2024

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus | 29/11/2023

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus | 16/11/2023

Y Pwyllgor Cyllid | 09/11/2023

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Adrian Compton

Bywgraffiad

Archwilydd Cyffredinol Cymru yw Adrian Crompton. Mae ei swydd yn annibynnol ar y llywodraeth. Nid yw’n was sifil a chaiff ei benodi gan y Frenhines.

Archwilydd Cyffredinol Cymru yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn golygu ei fod yn archwilio cyfrifon cynghorau sir a chynghorau bwrdeistrefi sirol, yr heddlu, yr awdurdodau tân ac achub, y parciau cenedlaethol a’r cynghorau cymuned, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus a noddir ganddi ac sy’n gysylltiedig â hi, Comisiwn y Senedd a chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae rôl yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnwys archwilio sut y mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, gan gynnwys sicrhau gwerth am arian wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi adroddiadau ar y gwaith hwnnw, a chaiff rhai ohonynt eu hystyried gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd Cymru. Mae hefyd yn rhoi adroddiad blynyddol ar sut mae awdurdodau lleol unigol yn cynllunio ar gyfer gwella.

Sefydlwyd Swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn 2005 ac mae’r deiliad presennol, Adrian Crompton , wedi bod yn y swydd ers 21 Gorffennaf 2018. Gall unigolyn ddal y swydd hon am uchafswm o wyth mlynedd.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn mynd i gyfarfodydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn eistedd nesaf at y Cadeirydd yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor. Mae’r trefniant hwn yn pwysleisio rôl yr Archwilydd Cyffredinol fel y prif gynghorydd i’r Pwyllgor, ac mae’n egluro pwysigrwydd y rôl honno. Mae hefyd yn helpu i hwyluso’r cyfleoedd i’r Archwilydd Cyffredinol wneud cyfraniadau priodol yn rhwyddach yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor.

Aelodaeth

Digwyddiadau calendr: Adrian Compton