Pobl y Senedd

Mandy Jones AS

Mandy Jones AS

Gogledd Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau | 11/03/2021

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau | 11/03/2021

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau | 11/03/2021

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau | 11/03/2021

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau | 11/03/2021

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau | 11/03/2021

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Mandy Jones AS

Bywgraffiad

Roedd Mandy Jones yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Rhagfyr 2017 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Mandy yn wniadwraig fedrus a gall wneud, atgyweirio ac addasu ei dillad ei hun. Mae'n hoff iawn o anifeiliaid ac mae ganddi dri chi achub - dau gi Rottweiler a chi Catalonian Shepherd a ddaeth gartref o Sbaen; mae Mandy wrth ei bodd yn gwisgo ei dillad lledr a mynd ar ei Honda CBR 600F o amgylch tirlun hardd gogledd Cymru. 

Hanes personol

Daw Mandy o Wolverhampton a daeth i ogledd Cymru ym 1986. Aeth i Goleg Amaethyddol Llysfasi i astudio amaethyddiaeth ac yna hwsmonaeth anifeiliaid bach. Yma daeth yn fyfyriwr y flwyddyn yn 2000.

Mae gan Mandy bedwar o blant sy'n oedolion ac maent i gyd yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Mae bellach yn byw yng nghefn gwlad Corwen.

Cefndir proffesiynol

Mae Mandy wedi gweithio mewn siop sglodion, becws, ac mae wedi rhedeg ei busnes micro ei hun yn creu cotiau cynllunydd i gŵn ac yn gwneud brandio corfforaethol a brandio cwmni. Bu'n fugeiles, yn yrrwr tractor ac yn ddarllenydd mesurydd ar gyfer G4S.

Hanes gwleidyddol

Ymunodd Mandy ag UKIP yn 2014, ar ôl iddi gael ei denu gan ei pholisïau. Roedd yn ymgeisydd ar gyfer De Clwyd yn Etholiad Cyffredinol 2015, ac yn Etholiadau'r Cynulliad yn 2016. Roedd hefyd yn ymgeisydd rhestr ac yn ymgyrchydd gweithgar ar gyfer y refferendwm ym mis Mehefin 2016.  Fe'i dychwelwyd fel Aelod Cynulliad Rhanbarthol ym mis Rhagfyr 2018 yn sgil ymddiswyddiad Nathan Gill.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Tymhorau yn y swydd

  1. 28/12/2017 - 28/04/2021

Etholiadau

Digwyddiadau calendr: Mandy Jones AS