Pobl y Senedd

Michelle Brown AS

Michelle Brown AS

Heb Grŵp

Gogledd Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Y Pwyllgor Deisebau | 16/03/2021

Y Pwyllgor Deisebau | 16/03/2021

Y Cyfarfod Llawn | 09/03/2021

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu ei buddsoddiad mewn prosiectau cyfalaf? OQ56426

Y Cyfarfod Llawn | 09/03/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu ei buddsoddiad mewn prosiectau cyfalaf?

Wedi'i gyflwyno ar 04/03/2021

Y Pwyllgor Deisebau | 02/03/2021

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Michelle Brown AS

Bywgraffiad

Roedd Michelle Brown yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2016 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Michelle yn credu y gall gogledd Cymru ffynnu, os caiff gyfle teg, ac mae hi'n angerddol ynglŷn ag ymladd i’r ardal gael y sylw a'r buddsoddiad y mae'n ei haeddu. Dywed ei bod yn siaradwraig blaen ac y 'bydd yn dweud ei barn yn glir – yn blaen ac yn syml.’

Cefndir personol

Mae Michelle yn hoffi anifeiliaid. Cafodd ei magu ym Mostyn a graddiodd o Brifysgol Swydd Stafford gyda gradd yn y Gyfraith, gradd Meistr yn y Gyfraith a Diploma Ôl-raddedig mewn Practis Cyfreithiol. Mae ei theulu wedi byw yn ardal Treffynnon ers dechrau’r 1950au, a mynychodd ysgolion lleol, gan fynd i ysgol gynradd yn Nhreffynnon ac i Ysgol Uwchradd St Richard Gwyn yn y Fflint.

Mae Michelle yn dal i fyw ym Mostyn, ar ôl dychwelyd i Gymru rai blynyddoedd yn ôl ar ôl cyfnod yn gweithio yng nghanolbarth Lloegr.

Cefndir proffesiynol

Cyn dod yn Aelod Cynulliad, gweithiodd Michelle fel cynghorydd cyfreithiol yn y sector peirianneg, gan weithio i gwmni byd-eang sy'n ymdrin ag amrywiaeth o gontractau gwerth uchel.

Hanes gwleidyddol

Ym mis Medi 2018, gadawodd Caroline UKIP a daeth yn Aelod Cynulliad Annibynnol.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Michelle Brown AS