Aelodau'r Bwrdd

Cyhoeddwyd 21/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/01/2024   |   Amser darllen munudau

Mae aelodau’r Bwrdd yn cael eu penodi gan Comisiwn y Senedd ac yn aros yn y swydd am gyfnod penodol o bum mlynedd. Nodir isod aelodaeth bresennol y Bwrdd.

Yn unol ag arfer da ac wrth gydymffurfio â darpariaethau adran 2 o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (y Mesur), mae aelodau'r Bwrdd Taliadau wedi datgan buddiannau perthnasol er mwyn i’r Bwrdd weithredu gydag annibyniaeth, ac i fod yn agored ac yn gynhwysol. Mae'r wybodaeth hon yn gyfredol ar 5 Ebrill 2023, a chaiff ei diweddaru os gwneir unrhyw newidiadau.

Datganiadau o Fuddiannau gan Aelodau Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd (Saesneg yn unig).

 

Dr. Elizabeth Haywood (Cadeirydd)

Dr Elizabeth HaywoodMae Elizabeth yn Gyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd profiadol. Yn flaenorol mae wedi bod yn aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn gadeirydd ei Bwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd, yn aelod o Fwrdd Scottish Power Energy Networks, Grŵp Hendre, Leonard Cheshire, yn aelod annibynnol o Fwrdd Taliadau Swyddfa Archwilio Cymru, ac yn Gadeirydd cyntaf CGGC Services Ltd. Cadeiriodd Dasglu Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar Ddinas-ranbarthau.

Treuliodd ei gyrfa gynnar yn Senedd Ewrop ac Awdurdod Datblygu Cymru, cyn iddi gael ei phenodi’n Gyfarwyddwr CBI Cymru, yna’n Gyfarwyddwr Cyfathrebu Cymdeithas y Cwmnïau Trenau ac yna fe redodd gwmni chwilio am uwch-swyddogion yng Nghaerdydd a Llundain.

Mae ganddi radd economeg o Brifysgol Caerdydd, PhD a doethuriaeth er anrhydedd gan Abertawe, a hi oedd enillydd cyntaf Gwobr Cymraes y Flwyddyn, ac mae’n Gymrawd Mygedol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Cafodd Elizabeth ei phenodi’n Gadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ym mis Mehefin 2020.

Michael Redhouse

Michael RedhouseAr hyn o bryd, Michael Redhouse yw Pennaeth EMES Consulting, sef cwmni a sefydlwyd ganddo yn 2002 i helpu llawer o sefydliadau mawr gyda materion taliadau a buddion. Graddiodd Michael mewn mathemateg o’r Brifysgol Agored, ac mae ei yrfa wedi cynnwys cyfnodau fel Partner yn Ernst and Young a Chyfarwyddwr Polisi Cyflogaeth yn Diageo. Mae Michael wedi bod yn Ymddiriedolwr i Ymddiriedolaeth APEX, sy’n cefnogi troseddwyr sy’n dychwelyd i’r gwaith, ac mae wedi bod yn Gadeirydd Ymddiriedolwyr i Hosbis St Luke yn Harrow.

Roedd Michael arfer yn Aelod o’r Corff Adolygu Athrawon Ysgol (STRB), sy’n edrych ar gyflogau, dyletswyddau proffesiynol ac amser gweithio athrawon ysgol yng Nghymru a Lloegr, ac sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol.

Mae Michael wedi bod yn aelod o’r Bwrdd Taliadau Annibynnol ers 2015.

Y Fonesig Jane Roberts

Jane RobertsMae Jane yn Gymrawd Gwadd mewn Arweinyddiaeth Gyhoeddus yn Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored.

Rhwng 2000 a 2005, Jane oedd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Camden yn Llundain, ac ers hynny mae wedi gwasanaethu mewn nifer o rolau anweithredol gan gynnwys Cadeirydd Comisiwn Cynghorwyr yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, Cadeirydd Parenting UK, aelod o fwrdd Ofsted, Cadeirydd Rhwydwaith Llywodraeth Leol Newydd ac, ar hyn o bryd, Cadeirydd yr elusennau Living Streets a Stammering Chidren.

Mae hi hefyd yn aelod o Grŵp Cynghori Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Urddwyd Jane yn DBE yn 2004. Yn broffesiynol, mae hi’n feddyg ac mae’n Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc Er Anrhydedd â phrofiad o uwch-reoli ym maes gofal iechyd yn y GIG.

Mae Jane wedi cyhoeddi nifer o erthyglau academaidd am bediatreg, seiciatreg a gwleidyddiaeth. Golygodd ‘The Politics of Attachment’ (1996) ar y cyd â Sebastian Kraemer, a hi yw awdur ‘Losing Political Office’ (2017). Dyfarnwyd PhD iddi yn y Brifysgol Agored (2021).

Mae Jane wedi bod yn aelod o’r Bwrdd Taliadau Annibynnol er 2015.

Hugh Widdis

Hugh WiddisPennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Gogledd Iwerddon yw Hugh, ac ef yw’r Cyfreithiwr Adran ar gyfer Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Mae ganddo 22 mlynedd o brofiad o weithio mewn gwasanaethau cyfreithiol seneddol a llywodraeth. Cyn ymuno â Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Hugh oedd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu ar gyfer Cynulliad Gogledd Iwerddon.

Cyn hynny, gweithiai ym maes ymchwil, fel bargyfreithiwr mewn practis preifat ac fel cyfreithiwr mewnol i gwmni blaenllaw ym maes gwasanaethau ariannol. Mae hefyd wedi gweithio yn swyddfa gyfreithiol Senedd yr Alban, ac ar gyfraith gwahaniaethu yn Swyddfa’r Prif Weinidog a’r dirprwy Brif Weinidog. Roedd yn aelod o Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn Cynulliad Cymru (ACARAC) rhwng 2012 a 2019. Mae Hugh yn fargyfreithiwr ac yn aelod o Far Iwerddon a Bar Gogledd Iwerddon.

Cafodd Hugh ei benodi i’r Bwrdd Taliadau Annibynnol ym mis Mehefin 2020.

Y Gwir Anrhydeddus Syr David Hanson

Syr David Hanson oedd yr Aelod Seneddol dros etholaeth Delyn rhwng 1992 a 2019. Yn San Steffan roedd yn aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig o 1992 nes iddo ymuno â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym 1996. Daeth yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, Alistair Darling, ym 1997 a daeth yn aelod o Lywodraeth y DU ym 1998 pan gafodd ei benodi'n Chwip Cynorthwyol y Llywodraeth.

Cafodd ei ddyrchafu ym 1999 ar ôl ei benodi'n Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Swyddfa Gymreig. Yn 2001 daeth yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i’r Prif Weinidog Tony Blair hyd at 2005. Gweithredodd fel Gweinidog Gwladol yn Swyddfa Gogledd Iwerddon o gyfnod yr etholiad cyffredinol yn 2005 hyd at 2007. Gweithredodd fel Gweinidog Gwladol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder rhwng 2007 a 2009.

Ar 21 Chwefror 2007, cafodd ei benodiad i’r Cyfrin Gyngor ei gyhoeddi. Roedd yn Weinidog Gwladol dros Ddiogelwch, Trosedd a Phlismona yn y Swyddfa Gartref rhwng 2009 a’r etholiad cyffredinol yn 2010. Yna, cysgododd y rôl honno, ac yn dilyn yr etholiad ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Lafur cafodd ei benodi'n Weinidog Cysgodol y Trysorlys. Bu David hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder a chafodd ei benodi i Bwyllgor Cuddwybodaeth a Diogelwch Senedd y DU. Bu hefyd yn cadeirio dadleuon seneddol ar ran y Llefarydd. 

Cafodd David ei urddo'n farchog am wasanaeth cyhoeddus yn 2020. Cyn cael ei ethol i Senedd y DU, bu David yn gweithio ym maes manwerthu a'r sector gwirfoddol fel prif weithredwr elusen genedlaethol, ac roedd yn gynghorydd ac yn arweinydd grŵp cyngor.

Cafodd David ei benodi i’r Bwrdd Taliadau Annibynnol ym mis Awst 2021.