Pobl y Senedd

Keith Davies

Keith Davies

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Keith Davies

Bywgraffiad

Roedd Keith Davies yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2011 ac Ebrill 2016. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.

Cefndir personol

Cafodd Keith Davies ei eni yng Ngwauncaegurwen a’i addysgu yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera cyn mynd ymlaen i astudio Mathemateg a Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei wraig yn gweithio i Tinopolis ac mae eu dau fab yn mynd i Ysgol y Strade.

Cefndir proffesiynol

Ar ôl ennill ei gymhwyster fel athro, bu Keith yn gweithio mewn swyddi uwch mewn ysgolion a cholegau cyn dechrau ar ei yrfa wleidyddol mewn llywodraeth leol, yn gyntaf fel arolygydd ysgolion ac yn y pen draw yn gyfarwyddwr addysg Morgannwg Ganol a Sir Gaerfyrddin.

Yn ystod ei gyfnod yn arolygydd, bu’n cynrychioli De Cymru a Gorllewin Lloegr ar Gymdeithas Genedlaethol yr Arolygwyr a Chynghorwyr Addysgol.

Cefndir gwleidyddol

Bu Keith yn cynrychioli Ward Hengoed ar Gyngor Sir Caerfyrddin rhwng 2004 a 2008. Ar hyn o bryd, mae’n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru ar Bwyllgor Gweithredol Cymru.

Ymgysylltiadau

Mae Keith yn Llywodraethwr Ysgol Gymunedol Ffwrnes ac Ysgol Gyfun y Strade. Mae hefyd yn aelod o’r Blaid Gydweithredol.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Keith Davies