Pobl y Senedd

Gwenda Thomas

Gwenda Thomas

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Gwenda Thomas

Bywgraffiad

Roedd Gwenda Thomas yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2016. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.

Cefndir personol

Cafodd Gwenda Thomas ei geni yng Nghastell-nedd a’i haddysgu yn Ysgol Ramadeg Pontardawe. Mae’n briod ac mae ganddi un mab. Mae’n gyn-gynghorydd cymuned a chyn-gynghorydd sir.
Cefndir proffesiynol

Arferai Gwenda fod yn was sifil, wedi gwasanaethu yng nghanghennau Llysoedd Sirol Adran yr Arglwydd Ganghellor ar y pryd fel Swyddog Gweithredol, ac yna gyda’r Asiantaeth Fudd-daliadau.

Bu’n cynrychioli pentref Gwauncaegurwen, lle mae’n byw, fel cynghorydd cymuned a sir am flynyddoedd lawer. Cafodd ei phenodi’n Gadeirydd Pwyllgorau Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar ôl ailstrwythuro llywodraeth leol, gan ddod y fenyw gyntaf i gadeirio pwyllgor mawr.

Nes iddi gael ei phenodi’n Weinidog yn 2007, roedd Gwenda’n Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gwauncaegurwen.

Cefndir gwleidyddol

Etholwyd Gwenda i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999. Yn ystod ei gyfra fel Aelod Cynulliad, mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor Tai, Cadeirydd Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad, wedi cadeirio adolygiad o  Ddiogelu Plant sy’n Agored i Niwed yng Nghymru ac mae wedi bod yn Ddirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.

Mae ei diddordebau yn cynnwys iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, materion plant, llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol.

Bywgraffiad fideo

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF, 307KB)

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Gwenda Thomas