Pobl y Senedd

Nick Ramsay AS

Nick Ramsay AS

Heb Grŵp

Mynwy

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y stori hyd yn hyn', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

I'w drafod ar 17/03/2021

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint y mae Llywodraeth Cymru wedi'i godi mewn refeniw ers 2016 drwy ardrethi annomestig?

Wedi'i gyflwyno ar 10/03/2021

Pryd fydd yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2019/2020 ar berfformiad darparwyr addasiadau yn cael ei gyhoeddi?

Wedi'i gyflwyno ar 09/03/2021

Pryd y bydd yr ymchwil a gomisiynwyd gan y Gweinidog ar y prawf moddion a'r grant cyfleusterau i'r anabl yn cael ei gyhoeddi?

Wedi'i gyflwyno ar 09/03/2021

Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran darparu addasiadau i'r cartref i bobl ag anableddau?

Wedi'i gyflwyno ar 03/03/2021

Addasu tai Cymru nawr ar gyfer pobol sydd yn byw gyda Clefyd Motor Niwron: sut allwn ni wneud yn sicr fod pobl sydd yn byw gyda MND yn cael cartrefi diogel a hygyrch, gan gadw eu annibyni...

I'w drafod ar 24/02/2021

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Nick Ramsay AS

Bywgraffiad

Roedd Nick Ramsay yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2007 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.

Hanes personol

Mae Nick, a aned yn 1975, yn dod yn wreiddiol o Gwmbrân. Ar wahân i wleidyddiaeth, mae Nick yn chwaraewr tennis brwd ac mae’n aelod o Glwb Tennis Cwmbrân. Mae hefyd yn dilyn rygbi yng Nghymru. Mae’n ymwneud â gwaith elusennol.

Cefndir proffesiynol

Aeth Nick i Ysgol Gyfun Croesyceiliog cyn mynd ymlaen i Goleg Sant Ioan ym Mhrifysgol Durham lle gafodd Radd Gydanrhydedd mewn Saesneg ac Athroniaeth. Yn ddiweddarach cafodd Ddiploma Ôl-radd mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol o Brifysgol Caerdydd.

Mae Nick wedi gweithio’n flaenorol fel ymchwilydd i Nick Bourne, cyn- arweinydd plaid y Ceidwadwyr Cymreig. Cyn hynny, bu’n gweithio i David Davies, cyn- Aelod Cynulliad Sir Fynwy.

Cefndir gwleidyddol

Cafodd Nick ei ethol yn Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig dros Sir Fynwy ym mis Mai 2007 a bu’n Llefarydd yr Wrthblaid ar Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus tan fis Hydref 2008 pan gafodd ei benodi’n Llefarydd yr Wrthblaid ar Gyllid. Roedd e’n penodwyd yn Weinidog Busnes, Menter a Thechnoleg yr Wrthblaid, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes 2011-2014.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Tymhorau yn y swydd

  1. 04/05/2007 - 31/03/2011
  2. 06/05/2011 - 05/04/2016
  3. 06/05/2016 - 28/04/2021

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Nick Ramsay AS