Pobl y Senedd

Rosemary Butler

Rosemary Butler

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Rosemary Butler

Bywgraffiad

Roedd Y Fonesig Rosemary Butler yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2016. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.

Cefndir personol

Mae’r Fonesig Rosemary Butler wedi bod yn byw yng Nghaerllion, sy’n rhan o etholaeth Gorllewin Casnewydd, ers blynyddoedd lawer ac aeth i Ysgol Uwchradd St Julian's. Mae ei diddordebau’n cynnwys amgueddfeydd ac orielau celf, cyngherddau ac operâu, teithio dramor a hanes teuluol.

Cefndir proffesiynol

Ymunodd Rosemary â’r Blaid Lafur ym 1971, a dwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd ei hethol yn gynghorydd dros Gaerllion ar Gyngor Bwrdeistref Casnewydd, a bu yn y swydd honno tan 1999. Tra roedd yn Aelod o’r Cyngor, bu’n Gadeirydd y Pwyllgor

Gwasanaethau Hamdden am 12 mlynedd, a bu’n gwasanaethu fel Dirprwy

Arweinydd a Maer Casnewydd (1989/1990).

Cefndir gwleidyddol

Cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad cyntaf Gorllewin Casnewydd ym mis Mai 1999, ac mae wedi cael ei hailethol ym mhob un o etholiadau dilynol y Cynulliad.

Cafodd Rosemary ei phenodi i Gabinet cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, fel y Gweinidog dros Addysg cyn-16 a Phlant, a bu’n Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant , y Gymraeg a Chwaraeon. Rosemary, hefyd, oedd cynrychiolydd y Cynulliad ar Bwyllgor y Rhanbarthau yr Undeb Ewropeaidd. Mae hefyd wedi bod yn Ddirprwy Lywydd, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 y Cynulliad (a oedd yn craffu ar gynigion y meinciau cefn i gyflwyno Mesurau) a bu’n aelod o Grŵp Trawsbleidiol y Cyngor Prydeinig.

Ym mis Mai 2011, cafodd Rosemary ei hethol yn unfrydol gan Aelodau’r Cynulliad yn Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hefyd yn cynrychioli'r Cynulliad ar Gymdeithas Seneddol Prydain Iwerddon a CALRE (Llefarwyr Cyrff Deddfwriaethol yn yr Undeb Ewropeaidd).

Ymgysylltiadau

Mae Rosemary yn Gymrodor er anrhydedd o Brifysgol Cymru, Casnewydd, yn un o gyd-sylfaenwyr a Chadeirydd Cystadleuaeth Ryngwladol Casnewydd ar gyfer Pianyddion Ifanc, yn un o aelodau sefydlu Cymdeithas Efeillio Casnewydd-Kutaisi, Llywydd Cyfeillion Pont Drafnidiaeth Casnewydd, Llywydd Cyngor Cymru dros Ddiogelwch yn y Cartref, Llywydd Clwb Athletau Newport Harriers, aelod oes er anrhydedd o Gyngor Chwaraeon Casnewydd, aelod oes o Glwb Criced Casnewydd, un o aelodau sefydlu Cyfeillion Tŷ Tredegar, Llysgennad y Geidiaid, aelod o Gynghrair Rhyngwladol Heddwch a Rhyddid y Menywod, Doctor er Anrhydedd, Prifysgol De Cymru, Cymrawd er Anrhydedd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Cadeirydd y Comisiwn Siartwyr Annibynnol (Casnewydd), un o aelodau sefydlu Cymorth i Fenywod Casnewydd ac un o noddwyr Gŵyl Gelfyddydau Caerllion.

Bywgraffiad fideo

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF, 307KB)

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Rosemary Butler