Pobl y Senedd

Peter Black

Peter Black

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Peter Black

Bywgraffiad

Roedd Peter Black yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2016. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.

Cefndir personol

Ganed Peter ym 1960 yn Bebington, Cilgwri, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Cilgwri cyn graddio o Brifysgol Abertawe ym 1981 gyda gradd mewn Saesneg a Hanes. Mae’n briod ag Angela ac mae’n byw yn Manselton, Abertawe. Mae ei ddiddordebau personol yn cynnwys ffuglen wyddonol, ffilm, theatr a barddoniaeth.

Cefndir proffesiynol

Bu Peter yn was sifil yng Nghofrestrfa Tir Cymru rhwng 1983 a 1999.
Cefndir gwleidyddol

Ers 1999, Peter Black sydd wedi cynrychioli Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn rhanbarth De Orllewin Cymru. Mae’n gynghorydd blaenllaw yn Abertawe ac wedi cynrychioli ward Cwmbwrla ers 1984. 

Bu’n Arweinydd yr Wrthblaid ar Gyngor Dinas a Sir Abertawe ac mae wedi bod yn Gadeirydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Mae diddordebau gwleidyddol Peter yn cynnwys technolegau digidol, tai, llywodraeth leol a chyfiawnder cymdeithasol. Peter yw Comisiynydd TGCh a Chynaliadwyedd y Cynulliad.

Bywgraffiad fideo

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF, 307KB)

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Peter Black