Grŵp Trawsbleidiol

Cydraddoldeb Hil - Y Bumed Senedd

Disgrifiad

Cafodd y Grŵp Trawsbleidiol hwn ei ddiddymu ar ddiwedd y Bumed Senedd (Ebrill 2021).

 

Grŵp Trawsbleidiol ar Gydraddoldeb hiliol 

 

Diben

 

Darparu fforwm trawsbleidiol i drafod materion yn ymwneud â hil, gan gynnwys pob agwedd ar wahaniaethu ar sail hil sy’n effeithio ar unigolion a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yng Nghymru.

 

Cefnogi’r gwaith o lunio dull trawsbleidiol o fynd i’r afael â’r gwahaniaeth sy’n ymwneud â chynrychiolaeth pobl BAME ar draws yr holl bleidiau gwleidyddol, penodiadau cyhoeddus a chynnig targedau i fynd i’r afael â chynhwysiant ac amrywiaeth hiliol.

 

Ystyried materion sydd o bwys i bobl BAME yng Nghymru a phenderfynu ar y goblygiadau polisi; a galluogi fforwm gweithredol i gynrychiolwyr o sefydliadau perthnasol gwrdd ag Aelodau’r Cynulliad i drafod meysydd sy’n peri pryder.

 

Cynyddu’r sylw a roddir i faterion hil a chydraddoldeb yng Nghynulliad Cymru; i ddiweddaru Aelodau’r Cynulliad ac aelodau ar faterion cydraddoldeb hiliol ac ymchwil ddiweddar; ac i gysylltu’r grŵp â sefydliadau cydraddoldeb hiliol ac undebau llafur trwy strwythurau TUC Cymru.

 

Gweithio trwy ddeialog drawsbleidiol mewn partneriaeth gymdeithasol, gan hyrwyddo rôl cymdeithas ddinesig Cymru, y Senedd a’r Llywodraeth wrth fynd ati i adeiladu Cymru sy’n rhydd o hiliaeth

 

Deiliad Swyddi

 

Cadeirydd  : John Griffiths AS

 

Ysgrifennydd: Judge Ray Singh

 

Dogfennaeth y Grŵp Trawsbleidiol

Mae Cofnodion pob cyfarfod, ac Adroddiadau Blynyddol a Datganiadau Ariannol ar gael yma:

Dogfennaeth y Grŵp Trawsbleidiol

 

Aelodau

  • Ali Abdi - Cyngor Hiliaeth Cymru
  • Jim Alexis - Windrush Elders
  • Rhydell Bennet - SRtRC
  • Patience Bentu - Cyngor Hiliaeth Cymru
  • Hilary Brown - Virgo Consultancy Services
  • Emily Daly - International School Linking
  • Alison Burrowes - PCS
  • Rocio Cifuentes - Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig
  • Suzy Davies AS
  • Kay Denyer - Cyngor Hiliaeth Cymru
  • Adeola Dewis - Cyngor Hiliaeth Cymru
  • Adele Dunstan - Cyngor Hiliaeth Cymru
  • Suzanne Duval - Awetu
  • Humie Webbe
  • John Griffiths AS
  • Professor Uzo Iwobi OBE - Cyngor Hiliaeth Cymru
  • Helen Mary Jones AS
  • Joanne Maksymiuk-King - Cyngor Hiliaeth Cymru
  • Maria Mesa - Women Connect First
  • Tamasree Mukhpadhyay - KIRAN
  • Claudia Ortiz - Cyngor Hiliaeth Cymru
  • Dr. Sibani Roy - NWAMI
  • Bethan Sayed AS
  • Geoffrey Simons - KIRAN
  • Shahien Taj - Henna Foundation
  • Leila Usmani - Cynghrair Hil Cymru
  • Ginger Wiegand - Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru