Grŵp Trawsbleidiol

Anabledd - Y Bumed Senedd

Disgrifiad

Cafodd y Grŵp Trawsbleidiol hwn ei ddiddymu ar ddiwedd y Bumed Senedd (Ebrill 2021).

 

Diben

I fynd i'r afael â materion cydraddoldeb anabledd allweddol ar gyfer pob nam, gan gynnwys gweithredu'r Model Cymdeithasol o Anabledd a'r hawl i Fyw'n Annibynnol.

 

Cafodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd ei ail-sefydlu yn 2016 ac mae'n cael ei gadeirio gan Mark Isherwood AC. Mae'r Grŵp yn cynnwys Aelodau'r Cynulliad o rai o'r prif bleidiau gwleidyddol ac aelodau o Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru, sy'n cynnwys cyrff ymbarél yng Nghymru sy'n cynrychioli buddiannau pobl anabl.

 

Nod y grŵp yw codi ymwybyddiaeth ynghylch materion anabledd allweddol ar gyfer pob nam ac i hyrwyddo pryderon pobl anabl. Ni fydd y Grŵp yn gwneud gwaith achos, ond bydd yn cyfeirio ymholwyr fel y bo'n briodol.

 

Dyma'r prif themâu y bydd y Grŵp yn ymdrin â nhw:

>>>> 

>>>Model Cymdeithasol o Anabledd

>>>Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

>>>Fframwaith Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Byw'n Annibynnol - Cynllun ar gyfer adolygiad

>>>Strategaeth gyflogaeth

>>>Effaith gymdeithasol, economaidd, gwleidyddol, polisi a deddfwriaeth ar bobl anabl yng Nghymru a'r DU

>>>Effaith gadael yr UE ar bobl anabl yng Nghymru

>>>Diwygio lles

<<< 

 

Cynhelir cyfarfodydd bob chwarter, gan gynnwys un cyfarfod 'agored'.

 

Darperir gwasanaeth ysgrifenyddiaeth gan Anabledd Dysgu Cymru ar ran Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru, a dyma'r sefydliadau sy'n aelodau: Anabledd Cymru, Anabledd Dysgu Cymru, Mind Cymru, Vision in Wales, Cyngor Cymru i Bobl Fyddar.

 

Deiliaid swyddi

Cadeirydd: Mark Isherwood AS

Ysgrifennydd: Zoe Richards, Anabledd Dysgu Cymru

 

Dogfennaeth y Grŵp Trawsbleidiol

Mae Cofnodion pob cyfarfod, ac Adroddiadau Blynyddol a Datganiadau Ariannol ar gael yma:

Dogfennaeth y Grŵp Trawsbleidiol

Gwybodaeth gyswllt

Cyswllt:
Zoe Richards

Ffôn: 02920 681160

Aelodau