Grŵp Trawsbleidiol

Cymunedau Diwydiannol - Y Bumed Senedd

Disgrifiad

Cafodd y Grŵp Trawsbleidiol hwn ei ddiddymu ar ddiwedd y Bumed Senedd (Ebrill 2021).

 

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol

 

Diben

Bydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol yn gweithredu fel fforwm ar gyfer atebion a fydd yn gwella llesiant economaidd a chymdeithasol yn ardaloedd diwydiannol a chyn-ardaloedd diwydiannol Cymru. Drwy ddulliau fel cyfarfodydd agored, briffio a gwaith cyfryngau, bydd y grŵp yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o heriau cymdeithasol-economaidd sy'n effeithio ar yr ardaloedd hyn ac yn archwilio amrywiaeth o ffyrdd a all helpu i orchfygu'r heriau hyn.

 

Felly, bydd y Grŵp Trawsbleidiol yn:

 

        Anelu at ddylanwadu ar benderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill i sicrhau y caiff adnoddau priodol eu defnyddio i gynorthwyo'r gwaith o adfywio cymunedau diwydiannol Cymru yn economaidd ac yn gymdeithasol; a

        Meithrin cysylltiadau â chymheiriaid ar lefel y DU, yn ogystal â chymheiriaid yn y gwledydd datganoledig eraill, i rannu gwaith ymchwil ac arfer gorau er mwyn helpu i wella ein cymunedau diwydiannol a chyn-gymunedau diwydiannol.

 

 

Deiliaid swyddi

 

Cadeirydd: Vikki Howells AS

 

Ysgrifennydd: Peter Slater, Industrial Communities Alliance

 

Dogfennaeth y Grŵp Trawsbleidiol

Mae Cofnodion pob cyfarfod, ac Adroddiadau Blynyddol a Datganiadau Ariannol ar gael yma:

Dogfennaeth y Grŵp Trawsbleidiol

 

Gwybodaeth gyswllt

Cyswllt:
Ged McHugh

Ffôn: 07527226269

Aelodau