Grŵp Trawsbleidiol

Adeiladu - Y Bumed Senedd

Disgrifiad

Cafodd y Grŵp Trawsbleidiol hwn ei ddiddymu ar ddiwedd y Bumed Senedd (Ebrill 2021).

 

Diben

Bydd y grŵp yn ceisio hyrwyddo dealltwriaeth ymysg Aelodau'r Cynulliad a grwpiau perthnasol eraill am ddiwydiant adeiladu Cymru, yn ogystal â’r amgylchedd adeiledig ehangach a’i effaith ar feysydd gwleidyddol allweddol, gan gynnwys treftadaeth, cynllunio, cymorth i fusnesau, carbon isel, caffael, datblygu economaidd a chyflenwad tai. Bydd yn gweithio i gefnogi adeiladu fel sector â blaenoriaeth a sicrhau bod gan Gymru ddiwydiant adeiladu o’r radd flaenaf. Bydd hyn yn sicrhau'r gwerth gorau i'w gleientiaid, yn hyrwyddo amgylchedd diogel yn ei safleoedd, gweithlu amrywiol, a llwybr gyrfa a rhagolygon cyflogaeth cymeradwy, gyda chefnogaeth ddigonol, ar gyfer ei bobl.

 

Deiliaid swyddi

Cadeirydd: Joyce Watson AS

Ysgrifennydd: Joshua Miles

 

Dogfennaeth y Grŵp Trawsbleidiol

Mae Cofnodion pob cyfarfod, ac Adroddiadau Blynyddol a Datganiadau Ariannol ar gael yma:

Dogfennaeth y Grŵp Trawsbleidiol

Gwybodaeth gyswllt

Cyswllt:
Donna Griffiths

Aelodau