Grŵp Trawsbleidiol
Cymunedau Diwydiannol (wedi'i ddatgofrestru) - Pedwerydd Cynulliad (2011-2016)
Disgrifiad
Cafodd y Grŵp Trawsbleidiol hwn ei ddatgofrestru yn
ystod y Pedwerydd Cynulliad.
Diben
Bydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol
yn gweithredu fel fforwm amhleidiol ar gyfer syniadau gyda’r nod o fynd i’r afael â’r amrywiaeth eang o faterion sy’n wynebu cymunedau diwydiannol yng Nghymru
heddiw. Drwy gyfryngau fel cyfarfodydd agored, sesiynau briffio a gwaith yn y
cyfryngau, bydd y grŵp
yn rhoi sylw i’r
amrywiaeth o faterion parhaus sy’n effeithio ar gymunedau diwydiannol yng Nghymru. Mae’r grŵp yn cydnabod hanes llawer o’n cymunedau diwydiannol ond mae’n canolbwyntio’n bennaf ar geisio gwella amodau
economaidd a chymdeithasol yn y meysydd hyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar y
gorffennol. O ganlyniad, bydd y Grŵp
Trawsbleidiol yn:
>>>>
>>>Ceisio
dylanwadu ar benderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill i
sicrhau bod lefelau priodol o adnoddau yn cael eu defnyddio i helpu adfywiad
economaidd a chymdeithasol mewn cymunedau diwydiannol yng Nghymru.
>>>Meithrin
cysylltiadau â chydweithwyr yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â phobl eraill yn y
gwledydd datganoledig, i rannu gwaith ymchwil ac arfer gorau o ran helpu i
wella’r amodau yn ein cymunedau diwydiannol.
<<<<
Deiliaid
swyddi
Cadeirydd: David Rees AC
Ysgrifennydd: Peter Slater
Cofnodion y
cyfarfodydd blaenorol
Mae cofnodion pob cyfarfod
(a gyhoeddir cyn pen pedair wythnos ar ôl y cyfarfod) i’w gweld yma:
Cofnodion
Yr Adroddiad
Blynyddol a’r Datganiad Ariannol
Mae’r Adroddiad Blynyddol a’r Datganiad Ariannol (a gyhoeddir cyn pen chwe
wythnos ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol) i’w gweld yma:
Adroddiad Blynyddol a Datganiad
Ariannol
Gwybodaeth gyswllt
Cyswllt:
Peter Slater
Aelodau
- David Rees AS (Cadeirydd)
- Peter Black AC
- Cllr Jane Ward - Cynghrair y Cymunedau Diwydiannol (Cadeirydd) / Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (aelod etholedig)