P-04-559 Ymwybyddiaeth mewn Ysgolion Uwchradd o Hunan-niweidio

P-04-559 Ymwybyddiaeth mewn Ysgolion Uwchradd o Hunan-niweidio

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Eleanor Price, ar ôl casglu 12 o lofnodion.

 

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sefydlu rhagor o raglenni addysgol (yn benodol mewn Ysgolion Uwchradd) i leddfu camddealltwriaeth llawer o bobl o beth yw hunan-niweidio.

Mae hwn yn fater cynyddol ymysg pobl ifanc yng Nghymru ac, yn ôl arolwg gan y BBC, mae 43% o bobl yn adnabod rhywun sydd wedi hunan-niweidio. Yn yr un arolwg, cofnodwyd bod 41% o bobl yn credu bod hunan-niweidio yn weithred hunanol

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Oherwydd nifer digamsyniol yr achosion o hunan-niweidio ymysg pobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru, credaf y dylid hybu ymwybyddiaeth a hygyrchedd am y pwnc. Pam y dylai person ifanc ddioddef yn dawel? Dyna pam yr wyf yn credu y dylem ni, fel gwlad, ddarparu deunyddiau mwy sylweddol i ddioddefwr allu cael cymorth am ddim i frwydro yn erbyn hunan-niweidio.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/05/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd y cyfnod o amser a oedd wedi mynd heibio ers i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/06/2014.

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/06/2014