Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Bil Llywodraeth a gyflwynwyd gan Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau.  Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Mae’r Bil Addysg Uwch (Cymru) yn ceisio deddfu er mwyn:

  • sicrhau trefn reoleiddio gadarn a chymesur ar gyfer sefydliadau yng Nghymru y mae eu cyrsiau'n cael eu cefnogi gan grantiau a benthyciadau Llywodraeth Cymru;
  • diogelu'r cyfraniad at les y cyhoedd sy'n deillio o gymhorthdal ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch;
  • cynnal ffocws cryf ar fynediad teg at addysg uwch;
  • gwarchod a diogelu annibyniaeth a rhyddid academaidd prifysgolion.

 

Mae’r Bil yn ceisio cyflawni’r amcanion hyn drwy:

  • sefydlu fframwaith rheoleiddiol newydd sy'n berthnasol i bob darparwr addysg uwch yng Nghymru sydd am i'w cyrsiau addysg uwch gael eu dynodi'n awtomatig at ddibenion cymorth i fyfyrwyr;
  • sicrhau nad yw'r rheolaethau newydd yn dibynnu ar Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i ddarparu cyllid i'r sefydliadau a'r darparwyr hynny;
  • ei gwneud yn ofynnol i bob darparwr addysg uwch sy'n elwa ar gymhorthdal ariannol Llywodraeth Cymru ar ffurf benthyciadau neu grantiau statudol ar gyfer ffioedd myfyrwyr gael statws elusennol;
  • ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr addysg uwch, y mae eu cyrsiau'n cael eu dynodi'n awtomatig at ddibenion cymorth i fyfyrwyr, ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal o ran mynediad at addysg uwch;
  • adeiladu, hyd y gellir gwneud hynny, ar y system bresennol o reolaethau a sefydlwyd gan CCAUC o dan ei delerau ac amodau cyllido.

 

Cyfnod presennol

 

Daeth Deddf Addysg Uwch 2015 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru ar 12 Mawrth 2015 (gwefan allanol).

 

Geirfa’r Gyfraith (PDF, 123KB)

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyfnod

 

 

Cyflwyno’r Bil – 19 Mai 2014


Bil Addysg Uwch (Cymru), fel y’i gyflwynwyd (PDF, 219KB)

Memorandwm Esboniadol (PDF, 1.0MB)

Datganiad y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol: 19 Mai 2014 (PDF, 125KB)

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil: 19 Mai 2014 (PDF, 58KB)

Tabl Tarddiadau (PDF, 279KB)

Datganiad ynglyn â Bwriad Polisi (PDF, 258KB)

 

Cyfnod 1 - Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol


Ymgynghoriad -
daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar 20 Mehefin 2014

 

 

Ystyriodd y Pwyllgor y Bil ar y dyddiadau canlynol:

5 Mehefin 2014
11 Mehefin 2014
19 Mehefin 2014 (PDF, 427KB)
25 Mehefin 2014 (PDF, 538KB)
9 Gorffennaf 2014 (PDF, 448KB)
17 Gorffennaf 2014 (preifat)

 

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor (PDF, 476KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PDF642KB)

 

Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn dilyn ymrwymiad Cyfnod 1 i ddarparu fersiynau drafft o reoliadau (PDF, 422KB)

 

Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

 


Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Hydref 2014. Cytunwyd ar y cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

 

Penderfyniad Ariannol

 


Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Addysg Uwch (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Hydref 2014.

 

Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau

 


Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar ddydd Mercher 5 Tachwedd (PDF, 591KB) a ddydd Iau 13 Tachwedd.

 

Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau:  15 Hydref 2014 (PDF, 65KB)

Llywodraeth Cymru - Tabl Diben ac Effaith: 15 Hydref 2014 (PDF, 63KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau:  22 Hydref 2014 (PDF, 76KB)

Llywodraeth Cymru - Tabl Diben ac Effaith: 22 Hydref 2014 (PDF, 74KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 29 Hydref 2014 (PDF, 100KB)

 

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 5 Tachwedd (PDF, 126KB)

 

Grwpio Gwelliannau: 5 Tachwedd 2014 (PDF, 61KB)

 

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 13 Tachwedd 2014 (PDF, 107KB)

 

Grwpio Gwelliannau: 13 Tachwedd 2014 (PDF, 64KB)

 

Bil Addysg Uwch (Cymru) - fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 198KB)

 

Memorandwm Esboniadol Diwygiwyd (PDF, 1.0MB)

 

 

Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

 


Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Ionawr 2015.

 

Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau:  7 Ionawr 2015 (PDF, 85KB)

Llywodraeth Cymru - Tabl Diben ac Effaith: 7 Ionawr 2015 (PDF, 105KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 13 Ionawr 2015 (PDF, 100KB)

 

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 20 Ionawr 2015 (PDF, 113KB)

 

Grwpio Gwelliannau: 20 Ionawr 2015 (PDF, 63KB)

 

Bil Addysg Uwch (Cymru) - fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 (PDF, 240KB)

 

 

 

Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

 

Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 27 Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Bil Addysg Uwch (Cymru) - Fel y’i Pasiwyd (PDF, 237KB)

Bil Addysg Uwch (Cymru), fel y’i pasiwyd (Crown XML)

 

Ar ôl Cyfnod 4

 


Mae'r cyfnod o hysbysiad o bedair wythnos wedi dod i ben. Mae'r breinlythyrau ar gyfer y Bil wedi cael eu cyflwyno i Ei Mawrhydi y Frenhines ar gyfer Cydsyniad Brenhinol.

 

Ysgrifenodd y Twrnai Cyffredinol (PDF, 440KB), y Cwnsler Cyffredinol (PDF, 141KB) ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru (PDF, 100KB) at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio’r Bil Addysg Uwch (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Dyddiad Cydsyniad Brenhinol

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol (PDF, 52KB) ar 12 Mawrth 2015.

 

Gwybodaeth gyswllt

 

Mae’r bil wedi cael ei cyfeirio i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

Clerc: Gareth Rogers

Dirprwy Glerc: Sarah Bartlett

Ffôn: 0300 200 6565

Ê-bost: SeneddPPIA@Cynulliad.Cymru

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/05/2014

Dogfennau

Ymgynghoriadau