P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i wrthdroi ei phenderfyniad i beidio â gwahardd saethu
rhywogaeth sydd mewn perygl, sef Gŵydd Talcen-wen yr Ynys Las, gan olygu
mai Cymru yw’r unig wlad o hyd ar lwybr hedfan y rhywogaeth hon sydd mewn
perygl, lle gallant barhau i gael eu saethu a’u lladd yn gyfreithlon. Mae
tystiolaeth wyddonol wedi dangos bod y rhywogaeth yn agored iawn i bwysau hela.
Yn ei hadroddiad ymgynghori, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyfaddef y gallai
methu â chymryd camau priodol i leihau marwolaethau cymaint â phosibl nifer y
Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las sy’n oedolion, gael ei ystyried fel methu â
bodloni rhwymedigaethau cadwraeth. Yn wahanol i’r Alban, Iwerddon, Gwlad yr Iâ
a’r Ynys Las nid oes gwaharddiad ar saethu a lladd yr aderyn hwn sydd mewn
perygl yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae gwaharddiad gwirfoddol ar waith ar ran o
aber afon Dyfi yng Nghymru ond mae tystiolaeth bod y gwyddau hefyd yn defnyddio
ardaloedd eraill i ffwrdd o’r aber yng nghanolbarth a gogledd Cymru lle nad oes
unrhyw gytundebau gwirfoddol ar waith.
Mae poblogaeth y gwyddau hyn, ar y cyfan, yn dirywio ac maent
wedi bod yn bryder o ran cadwraeth ers y 1970au hwyr pan arweiniodd dirywiadau
sydyn at amddiffyn rhag hela ar eu tiroedd gaeafu. Mae ganddynt amddiffyniad
statudol cryf. Fodd bynnag, ers canol y 1990au mae’r boblogaeth wedi dirywio’n
sydyn eto. Er bod Cymdeithas Adareg Cymru wedi cydnabod bod gwaharddiadau
gwirfoddol hirsefydledig ar saethu ar waith mewn rhai gwlyptiroedd fel aber
afon Dyfi, cred na fydd unrhyw beth sy’n llai na gwaharddiad statudol ar saethu
yn sicrhau y caiff Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las eu hamddiffyn.
Prif
ddeisebydd: Aaron Davies
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 29 Ebrill 2014
Nifer y
llofnodion: TBC
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/10/2014
Dogfennau