Deddfu yng Nghymru

Deddfu yng Nghymru

Adroddiad Deddfu yng Nghymru

 

Deddfu yng Nghymru Adroddiad Cryno

 

Diben yr ymchwiliad gan Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol oedd ystyried sut y mae deddfau yn cael eu gwneud yn y Pedwerydd Cynulliad, yn benodol drwy:

 

  • ystyried yr egwyddorion a ddefnyddir wrth ddrafftio Biliau Aelodau, a gwelliannau, ar gyfer y Cynulliad a nodi’r ffyrdd y maent yn cydymffurffio â’r arfer gorau yn y Deyrnas Unedig ac awdurdodaethau cymharol, neu’r ffyrdd nad ydynt yn gwneud hynny;
  • ystyried effaith cymhwysedd deddfwriaethol ar ddrafftio Biliau (gan gynnwys effaith bosibl ffyrdd amgen o ddiffinio cymhwysedd deddfwriaethol);
  • adolygu pwrpas ac effaith Memoranda Esboniadol, sy’n cyd-fynd â Biliau, a mathau eraill o ddeunydd esboniadol neu gefndirol;
  • adolygu effeithiolrwydd y cyfleoedd a ddarperir gan y Rheolau Sefydlog i graffu ar Filiau;
  • ystyried yr amser a neilltuir ar gyfer craffu ar Filiau, a materion eraill sy’n ymwneud â gweithdrefn Biliau;
  • adolygu cwmpas ac effeithiolrwydd y trefniadau ar gyfer Biliau sy’n destun llwybr carlam o fewn gweithdrefnau presennol y Cynulliad;
  • ystyried capasiti Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu;
  • ystyried materion sy’n ymwneud â’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei rhaglen ddeddfwriaethol;  
  • ystyried unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â’r broses ddeddfu;
  • gwneud argymhellion.

 

Tystiolaeth gan y cyhoedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad ar Ddeddfu yng Nghymru ar 20 Ionawr 2016. Gallwch wylio’r ddadl eto ar senedd.tv a gallwch hefyd ddarllen Cofnod y Trafodion.

 

Ymatebion:

 

Ymateb Llywodraeth Cymru
Ymateb Comisiwn y Cynulliad
Ymateb y Pwyllgor Busnes

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/03/2014

Dogfennau

Ymgynghoriadau