Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn - Y Pedwerydd Cynulliad

Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn - Y Pedwerydd Cynulliad

Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus femorandwm yr Archwilydd Cyffredinol ar y Gwasanaeth Awyr – Caerdydd i Ynys Môn - Oddi Mewn i Gymru, a chynhaliodd ymchwiliad byr i weld a yw’r gwasanaeth yn darparu gwerth am arian (Gorffennaf 2014). Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad terfynol ar y mater ym mis Gorffennaf 2015.

 

Yn ei adroddiad etifeddiaeth, gwnaeth y Pwyllgor argymhelliad y dylai ei Bwyllgor olynol geisio’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn hydref 2016 ar y gwasanaeth awyr, gan gynnwys tueddiadau ar gyfer niferoedd y teithwyr, effaith cau Maes Awyr Môn dros dro, fel y disgwylir yn 2016, ynghyd â’r cyfleoedd posibl ar gyfer ehangu gweithgareddau yn y maes awyr a chanlyniad sicrhau partner newydd ar gyfer y tymor hir.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/03/2014

Dogfennau