P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru
P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru
Yr
ydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailgyflwyno’r
cyllid sy’n ofynnol ar gyfer Gwobrau CREST yng Nghymru, ac rydym am i’r Academi
Wyddoniaeth Genedlaethol gydnabod gwerth Gwobrau CREST i addysg gynradd ac
uwchradd, a bod y cyllid sy’n ofynnol ar gyfer Gwobrau CREST yn parhau.
Gwybodaeth ychwanegol:
Cynllun
grant sy’n seiliedig ar brosiectau yw Gwobrau CREST, ar gyfer gwaith ym maes
gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (pynciau STEM). Mae’n cysylltu
myfyrwyr â dysgu sy’n seiliedig ar y cwricwlwm. Y llynedd, roedd 30,000 wedi
cymryd rhan yn y cynllun Gwobrau CREST yn y DU, gan gynnig cyfleoedd i bobl
ifanc rhwng 5 ac 19 oed ymchwilio i brosiectau yn y byd o’u cwmpas mewn dull
cyffrous. Rhoddwyd dros 10% o Wobrau’r DU i ddisgyblion yng Nghymru. Mae
llwyddiant y cynnydd yn nifer y Gwobrau CREST yng Nghymru wedi’i gyflawni gyda
chyllid a roddwyd gan Lywodraeth Cymru (yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol) i
gydgysylltu a chynyddu’r gweithgareddau yn ysgolion Cymru. Mae’r arian hwn wedi
golygu bod modd cynnig y cynllun yn ddwyieithog, cyfrannu at ffi gofrestru’r
disgyblion, rhoi grantiau, a darparu strwythurau ategol eraill drwy’r cynllun
Gweld Gwyddoniaeth. Mae Gwobrau CREST wedi dod â chryn fudd i ysgolion, a bydd
y disgyblion a’r staff addysgu, fel ei gilydd, yn teimlo’r golled yn
uniongyrchol pe byddai’r cyllid yn cael ei dynnu’n ôl. Mae Gwobrau CREST yn
cael eu cydnabod gan holl Brifysgolion y DU, ac maent yn darparu tystiolaeth
gadarn o ddata cyd-destunol.
Prif ddeisebydd: See Science - British Science Association
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 21 Ionawr 2014
Nifer y llofnodion: 210
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/01/2014