Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020
Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad
i’r cyfleoedd ariannu a fyddai ar gael gan yr UE i sefydliadau yng Nghymru o
2014-2020.
Cylch gorchwyl
- Deall y prif gyfleoedd a fydd ar gael i
sefydliadau yng Nghymru yn sgîl rhaglenni ariannu’r UE ar gyfer 2014-2020
a ddaw o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Menter a Busnes.
- Ystyried i ba raddau y mae Cymru yn defnyddio
dull gweithredu effeithiol ar gyfer gwneud yn fawr o’r cyfleoedd sydd ar
gael yn sgîl arian o’r fath, gan gynnwys Strategaeth UE Llywodraeth Cymru,
ac i ba raddau y caiff arian yr UE ei gynllunio yng nghylch cyllidebol
Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru.
- Nodi unigolion a sefydliadau sydd wedi cael
llwyddiant blaenorol wrth gymryd rhan ym mhrosiectau / rhaglenni /
mentrau’r UE, ac ymchwilio i sut y gellid defnyddio eu profiadau a’u
galluoedd yn effeithiol yn 2014-20.
Ffynonellau Cyllid yr UE a gwmpesir:
- Cyfleuster Cysylltu Ewrop: yn benodol, y
Rhwydweithiau Traws-Ewropeaidd ar gyfer Trafnidiaeth (TEN-T) a’r
posibilrwydd i rannau o Gymru a nodwyd ar ‘rwydwaith craidd’ y TEN-T gael
mynediad ato.
- Erasmus+: yn benodol, yr arian ar gyfer
symudedd/camau arloesol ym maes addysg, hyfforddiant ac ieuenctid.
- Rhaglenni Cydweithio Rhyngranbarthol
(INTERREG):
- Rhaglen Cydweithio Trawsffiniol Iwerddon-Cymru
- Rhaglen Cydweithio Trawswladol Ardal yr Iwerydd
- Rhaglen Cydweithio Trawswladol Gogledd orllewin
Ewrop
- Rhaglen INTERREG V
- Ewrop Greadigol (ar gyfer y cyfryngau / y
diwydiannau creadigol / diwylliant)
- Rhaglenni perthnasol eraill fel y Rhaglen
Cystadleugarwch Mentrau Bach a Chanolig (COSME) a’r Rhaglen ar gyfer
Cyflogaeth ac Arloesedd Cymdeithasol.
Noder nad aeth yr
ymchwiliad hwn i'r afael â phrif Gronfeydd Strwythurol Rhaglenni'r UE a reolwyd
yng Nghymru rhwng 2014 a 2020 na Horizon 2020, gan i’r Pwyllgor gynnal
ymchwiliadau iddynt yn y ddwy flynedd flaenorol.
Tystiolaeth gan y cyhoedd
Cynhaliodd y
Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2013
Dogfennau
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (Wedi ei gyflawni)