P-04-517 Atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno system i fonitro plant sy’n dewis cael eu haddysgu gartref o dan wedd diogelu

P-04-517 Atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno system i fonitro plant sy’n dewis cael eu haddysgu gartref o dan wedd diogelu

Mae adolygiadau achos gwirioneddol wedi dangos mai awdurdodau, nid dewis addysgu plant gartref, sydd wedi gwneud cam â phlant. Ymrwymodd y llywodraeth i gyflawni hawliau’r plentyn yn 2004, a nododd bryd hynny y bydd yn ymgynghori â phlant cyn newid pethau sy’n effeithio ar blant. Nid yw’r llywodraeth yn ymgynghori â’n plant, sydd eisoes wedi dangos mewn ymgynghoriad gwahanol y llynedd eu bod yn gwrthwynebu system fonitro. Rydym ni, felly, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i atal cyflwyno system i fonitro plant sy’n dewis cael eu haddysgu gartref o dan wedd diogelu.

 

Prif ddeisebydd: New Foundations Home Education

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 26 Tachwedd 2013

 

Nifer y llofnodion: 864

 

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/11/2013