P-04-506 Pasys bws am ddim / teithio rhatach i’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau, myfyrwyr a phobl o dan 18 oed

P-04-506 Pasys bws am ddim / teithio rhatach i’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau, myfyrwyr a phobl o dan 18 oed

Rwy’n byw mewn ardal lle mae gan dirfeddianwyr cyfoethog a rhai sy’n berchen ar eu tai basys i deithio ar fysiau am ddim o ganlyniad i’w hoed, wrth i’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau ychydig filltiroedd i ffwrdd orfod talu er mwyn cael eu budd-daliadau. Dyma esiampl arall o godi tâl ar y rhai sy’n dlawd ac sy’n agored i niwed am wasanaeth cyhoeddus sy’n hanfodol i’w bywydau bob dydd. Mae hynny’n annheg ac yn anghyfiawn. Er mwyn datrys y sefyllfa hon rwy’n cyflwyno deiseb i Gynulliad Cymru yn galw arni i sefydlu cynllun ar gyfer y rhai tlawd ac agored i niwed yn ein cymdeithas i gael gwasanaethau bws am ddim yng Nghymru a thocynnau trên rhatach. Gellir cyllido hyn yn rhwydd drwy drosglwyddo’r budd-daliadau sydd ar hyn o bryd yn cael eu gwastraffu ar aelodau cyfoethog cymdeithas i eraill.

Gwybodaeth ychwanegol:
Os bydd y cynllun hwn yn cael ei fabwysiadu bydd yn helpu’r tlawd yng Nghymru i gael yr hawl dynol sylfaenol i deithio a defnyddio gwasanaethau lleol. Yn ychwanegol, bydd yn: gwella’r amgylchedd drwy leihau allyriadau co2; annog defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a chynyddu’r nifer sy’n ei defnyddio; gwella lles emosiynol; hybu cyfleoedd cyflogaeth i’r di-waith; cynorthwyo pobl i gael mynediad at wasanaethau iechyd sylfaenol ac yn dangos yr angen am system drafnidiaeth integredig (wedi ei gwladoli unwaith eto).

 

Prif ddeisebydd:  Mark Griffiths

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 8 Hydref 2013

 

Nifer y llofnodion : 60

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/10/2013