Dyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau

Dyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau

Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad i ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.

Y cylch gorchwyl

  • Pa wersi y gellir eu dysgu o'r fasnachfraint bresennol?
  • Pa flaenoriaethau y gellir eu nodi i sicrhau bod gwasanaethau i deithwyr rheilffyrdd yng Nghymru a'r gororau yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i deithwyr o 2018 ymlaen?
  • Sut y gall gwasanaethau ar ôl 2018 sicrhau cysylltedd a gwerth am arian i deithwyr a lleihau baich ar y trethdalwyr?

 

Y materion allweddol

Mae'r materion y mae'r Pwyllgor yn eu hystyried fel rhan o'r cylch gwaith hwn yn cynnwys:

  • A yw'r fasnachfraint bresennol yn diwallu anghenion teithwyr a pha wersi y gellir eu dysgu ohoni?
  • Sut y dylid cynnwys teithwyr yn y gwaith o ddatblygu a chyflawni'r fasnachfraint?
  • Sut y dylid cynnwys cymunedau a llywodraeth leol / Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol? A ellid eu cynnwys yn y gwaith o bennu'r fasnachfraint neu hyd yn oed ddarparu gwasanaethau?
  • Pa fodel rheoli y dylid ei fabwysiadu, gan gynnwys cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachfraint ddi-ddifidend?
  • Sut y dylai manyleb y fasnachfraint wella profiad teithwyr, gan gynnwys materion fel hyd y fasnachfraint, targedau / cymhellion a'r safonau gwasanaeth craidd y dylid eu cynnwys?
  • Pa lwybrau, yn arbennig llwybrau trawsffiniol, y dylid eu cynnwys?
  • Pa gerbydau y bydd eu hangen ar gyfer y fasnachfraint newydd? Pa ffactorau y mae angen eu hystyried a sut y dylid caffael y cerbydau hyn? A fydd angen cerbydau newydd?
  • A oes angen rheilffyrdd ychwanegol, gwella rheilffyrdd presennol, gorsafoedd newydd neu seilwaith arall?
  • A oes modd i'r fasnachfraint gefnogi gwell perthynas rhwng Network Rail a gweithredwr y fasnachfraint a pha fanteision posibl a ddaw yn sgil hyn?

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/07/2013

Dogfennau

Ymgynghoriadau