Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014

Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014

Bil Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Alun Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd. Bil Brys yw Bil Llywodraeth y mae angen ei wneud yn Ddeddf yn gynt nag y mae proses ddeddfu pedwar cyfnod arferol y Cynulliad yn ei ganiatáu. Ni ddarperir diffiniad o Fil Brys yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) nac yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad. Fodd bynnag, dywed Rheol Sefydlog 26.95:

 

“Os yw’n ymddangos i aelod o’r llywodraeth fod angen Bil Brys, caiff gynnig bod Bil llywodraeth, a gyflwynir yn y Cynulliad, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.”

 

Fel yn achos pob Bil Cynulliad, rhaid i Filiau Brys ymwneud ag un neu fwy o’r 20 Maes a gynhwysir yn Atodlen 7 i Ddeddf 2006 er mwyn iddynt fod o fewn cwmpas pwerau deddfwriaethol y Cynulliad.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau sy'n:

 

  • Cadw'r mesurau amddiffyn statudol presennol;
  • Rhoi'r pwerau i Weinidogion Cymru wneud Gorchmynion yn y dyfodol i bennu amodau a thelerau amaethyddol.
  • Rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru sefydlu Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru i gynnal swyddogaethau tebyg i’r rhai sydd gan y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ond wedi’u haddasu fwy.
  • Galluogi Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru i gynnal swyddogaethau sy’n ymwneud â gweithrediad y sector amaethyddol, gan gynnwys hyrwyddo gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth a gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch pennu isafswm amodau a thelerau.
  • Helpu i sefydlu sector amaethyddol cryf a chynaliadwy yng Nghymru sydd â gweithlu wedi’i hyfforddi’n dda.
  • Hybu ymdrechion i wella sgiliau yn y sector amaethyddol.

 

 

Cyfnod presennol

 

Daeth Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 yn gyfraith yng Nghymru ar 30 Gorffennaf 2014.

 

Ceir esboniad o beth sy'n digwydd ym mhob cyfnod yma.

 


Cyfnod

Dogfennau

 

Cynnig i drin y Bil fel Bil Brys y Llywodraeth

Cynnig i gytuno ar amserlen

Cyflwynwyd ar 25 Mehefin, i’w drafod ar 2 Gorffennaf 2013


Cyflwyniad y Bil– 8 Gorffennaf 2013

 

Bil Sector Amaethyddol (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol

 

Datganiad y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol: 8 Gorffennaf 2013

 

Crynodeb o Fil y Gwasanaeth Ymchwil

 

Geirfa’r Gyfraith Bil Sector Amaethyddol (Cymru)

 

 

Cyfnod 1 - Dadl Cyfnod 1 ar yr Egwyddorion Cyffredinol (yn y Cyfarfod Llawn

 

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Gorffennaf 2013.

Penderfyniad Ariannol (os oes angen)

 

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Gorffennaf 2013.

 


Cyfnod 2 – Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau


Dechreuodd Cyfnod 2 ar 10 Gorffennaf 2013. Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yn y Pwyllgor y Cynulliad Cyfan ar 16 Gorffennaf 2013 yma.

 

Cofnod Cryno: 16 Gorffennaf 2013

 

Hysbysiad Ynghylch Gwelliannau 10 Gorffennaf 2013

Hysbysiad Ynghylch Gwelliannau 11 Gorffennaf 2013

Hysbysiad Ynghylch Gwelliannau 12 Gorffennaf 2013

Rhestr o Welliannau Wedi’u Didoli 16 Gorffennaf 2013

Grwpio Gwelliannau 16 Gorffennaf 2013

 

Bil Sector Amaethyddol (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

 


Cyfnod 3 – y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau


Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Gorffennaf 2013.

 

Rhestr o Welliannau Wedi’u Didoli 17 Gorffennaf 2013

Grwpio Gwelliannau 17 Gorffennaf 2013

Bil Sector Amaethyddol (Cymru), fel y’i Pasiwyd (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

 

 


Cyfnod 4 –
Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

 

Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 17 Gorffennaf 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Bil Sector Amaethyddol (Cymru), fel y’i pasiwyd (Crown XML)

 

Ar ôl Cyfnod 4

 

 

Mae'r Twrnai Cyffredinol wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i'w hysbysu y bydd yn cyfeirio’r Bil at y Goruchaf Lys o dan Adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Mae Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad wedi ysgrifennu at holl Aelodau'r Cynulliad i roi gwybod am hynny. Mae’r llythyr hwn ar gael yma, ynghyd â chopïau o lythyr y Twrnai Cyffredinol a’r ymatebion gan y Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

 

Cyfeiriwyd y Bil at y Goruchaf Lys. Cafwyd dyfarniad ar yr achos hwn ar 9 Gorffennaf 2014. (Saesneg yn unig).

 

Dyfarnwyd bod y Bil o fewn cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

 

 

Cydsyniad Brenhinol

 

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ar 30 Gorffennaf 2014.

 

Gwybodaeth gyswllt

 

Clerc: Bethan Davies

 

Ffôn: 029 2089 8120

 

Cyfeiriad Postio:

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CF99 1NA

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/07/2013

Dogfennau