Cyflog Uwch Reolwyr

Cyflog Uwch Reolwyr

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i gyflog a thaliadau uwch reolwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Penderfynodd y Pwyllgor gynnal yr ymchwiliad hwn er mwyn ystyried agweddau ar werth am arian cyflog uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus. Ni ystyriodd y Pwyllgor gyflogau unigolion, ond yn hytrach sicrhau bod digon o atebolrwydd a thryloywder mewn perthynas â chyflog a thaliadau uwch reolwyr ar draws y sector cyhoeddus.

 

Fel rhan o’r ymchwiliad, ystyriodd y Pwyllgor:  

  • Y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â phennu cyflogau, yn enwedig a yw hon yn briodol ar gyfer sicrhau gwerth am arian ar draws y sector cyhoeddus;
  • Y dull o gytuno ar godiadau cyflog;
  • Tryloywder tâl a gwobrwyon/buddion ee pensiynau neu ffioedd swyddogion canlyniadau;
  • Ansawdd a lefel y wybodaeth gymharol sy’n bodoli ar gyfer cyflog uwch reolwyr ar draws y sector cyhoeddus; a

Gwerth sefydlu corff, sydd â chylch gwaith o fod â throsolwg o gyflog / taliadau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

 

Tystiolaeth gan y cyhoedd

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/02/2014

Dogfennau

Ymgynghoriadau